Mae prosiect newydd yn gobeithio gwarchod enwau lleoedd Cymraeg gan ddefnyddio GIFs.

Bydd Sioned Young, sylfaenydd cwmni darlunio digidol Mwydro o Gaernarfon, yn cydweithio gyda disgyblion yn y gogledd i ddylunio a hyrwyddo cyfres o sticeri GIFs enwau lleoedd.

Delweddau bychain wedi’u hanimeiddio sy’n cael eu defnyddio ar amryw o blatfformau digidol, fel Instagram, TikTok a Snapchat ydy GIFs.

Er bod Sioned Young wedi dylunio dros 400 o GIFs Cymraeg yn barod, mae hi’n gobeithio llenwi’r bwlch o ran delweddau enwau lleoedd Cymraeg fel rhan o’r prosiect #HacYGymraeg.

“Dw i wedi creu ambell i GIF Enwau Lleoedd o lefydd dwi’n ymweld ag yn aml fel Caernarfon a Llanberis, ond roeddwn i’n meddwl y byddai’n wych i gael cydweithio gyda disgyblion ysgol a rhoi’r cyfle iddyn nhw ddylunio GIFs eu hunain o Enwau Lleoedd Cymraeg yn eu hardal nhw,” meddai’r dylunydd.

Tesni Hughes a Sioned Young

‘Addysgu disgyblion’

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy #HacYGymraeg gafodd ei gynnal gan M-Sparc.

Sioned Young oedd yn llwyddiannus y llynedd wrth sicrhau grant gyda’i chynnig ar gyfer GIFs Enwau Lleoedd Cymru, gyda’r nod o ddefnyddio technoleg i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

Ychwanega fod y gweithdai gydag ysgolion yn rhoi cyfle i addysgu disgyblion am bwysigrwydd defnyddio a gwarchod enwau lleoedd Cymraeg a hanes enwau penodol yn eu hardaloedd.

“Mae’r wybodaeth yno wedyn yn cael ei ddefnyddio yn yr ail weithdy, ble mae’r bobol ifanc yn cael y cyfle i gynhyrchu fideos i gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r Enwau Lleoedd gan gynnwys eu hystyr, ynganiad, a phwysigrwydd eu defnyddio.”

Fel rhan o’r datblygiad, mae’r prosiect wedi bod yn cydweithio’n agos â Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Menter Iaith Môn a Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg er mwyn casglu gwybodaeth am enwau lleoedd i’w rhannu â disgyblion.

Mae Tesni Hughes, y cerddor ifanc o Ynys Môn, wedi bod yn cynorthwyo efo’r gwaith hefyd.

Chwilio am gynlluniau i wneud y Gymraeg yn fwy hygyrch

Cadi Dafydd

Gall busnesau neu unigolion sydd â chynllun arloesol i gynyddu’r defnydd o’r iaith mewn ffordd hygyrch dderbyn £50,000 drwy ail Hac y Gymraeg