Mae Pere Aragonès, arweinydd Catalwnia, yn dweud mai “degawdau” o ddiffyg buddsoddiad gan Sbaen sy’n gyfrifol am gyflwr y rheilffyrdd.
Daw hyn wrth iddo alw unwaith eto am drosglwyddo’r pwerau tros reilffordd Gavà Rodalies i Gatalwnia, yn dilyn ymweliad i weld y gwaith sydd angen cael ei gwblhau i wella’r isadeiledd.
Mae Aragonès yn dweud bod diffyg gweithgarwch yn arwain at “annhrefn” yn system Rodalies, ac at deimlad fod trigolion Catalwnia’n “ddinasyddion eilradd” yn sgil “penderfyniadau gwleidyddol”.
“Ers degawdau, fe fu diffyg buddsoddiad, ers degawdau dydy hi ddim wedi bod yn flaenoriaeth i lywodraethau Sbaen y presennol na’r gorffennol,” meddai.
Mae e hefyd wedi beirniadu Raquel Sánchez, gweinidog trafnidiaeth Sbaen a chyn-faer Gavà, am beidio ymweld â’r safle “drws nesaf i’w thŷ”.
Ond mae hi wedi taro’n ôl, gan ddweud bod sylwadau Pere Aragonès yn rhan o “ymgyrch wleidyddol”, a’i fod e’n manteisio ar y sefyllfa i dynnu sylw oddi ar faterion eraill.
Mae hi’n mynnu bod Llywodraeth Sbaen wrthi’n ceisio datrys y sefyllfa “p’un a oes ymgyrch etholiadol ar y gweill ai peidio”, a bod y llywodraeth yn “buddsoddi fel erioed o’r blaen” yn y rheilffordd.