Mae Guto Harri, cyn-bennaeth y wasg Boris Johnson, wedi datgelu bod cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi galw Sue Gray yn “seico” a’i fod e’n “ddrwgdybus” ohoni.

Daeth i’r amlwg dros y misoedd diwethaf fod gan yr unigolyn arweiniodd yr ymchwiliad i bartïon Downing Street gysylltiadau â’r Blaid Lafur, wrth iddi gael ei phenodi’n Bennaeth Staff yr arweinydd, Syr Keir Starmer.

Arweiniodd hyn at honiadau nad oedd ei hymchwiliad yn gwbl ddi-duedd, ac mae’r mater wedi dod i’r wyneb unwaith eto wrth i Guto Harri lansio podlediad newydd, Unprecedented: Inside Downing Street ar Global Player.

Ffrae ar ôl ffrae

Mae’r podlediad eisoes wedi datgelu ffrae rhwng Boris Johnson a’r Brenin Charles, pan oedd hwnnw’n Dywysog Cymru, tros gynlluniau dadleuol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddanfon ffoaduriaid i Rwanda.

“Pe bawn i’n dweud un gair all godi dro ar ôl tro, byddai ‘seico’ Sue Gray yn rhan ohono fe, ac mae yna synnwyr ei bod hi heb bersbectif o ran yr hyn roedd e wedi’i wneud,” meddai wrth orsaf radio LBC.

“Tua’r diwedd, dw i’n meddwl ei fod e’n meddwl, yn gywir iawn, nad oedd persbectif a bod pethau’n anghymesur yn y ffordd roedd Partygate yn cael ei weld.”

Mae hefyd yn dangos sut newidiodd perthynas Boris Johnson a Sue Gray dros gyfnod o amser yn ystod misoedd ola’r prif weinidog wrth y llyw, wrth i weinidogion ymddiswyddo bob yn dipyn yn sgil yr helynt.

“Roedd e wedi ei pharchu hi dipyn, ond erbyn i fi gyrraedd yno dw i’n meddwl ei fod e, yn ddealladwy, yn tyfu’n ddrwgdybus ac erbyn y diwedd roedden ni i gyd yn eithriadol o ddrwgdybus o’r fenyw yma,” meddai.

“Roedd hi i fod i wneud ymchwiliad oedd yn adrodd yn ôl i’r prif weinidog, ac roedd e i fod yn hollol ddiduedd, yn beth lled-farnwrol, gwrthrychol.”

Ond mae’n dweud ei bod hi’n cael ei “chynghori gan fargyfreithiwr Llafur â cherdyn oedd yn recriwtio pobol ar y cyfryngau cymdeithasol i’r Blaid Lafur wrth iddo ei chynghori hi beth i’w wneud”.

Wrth amddiffyn Boris Johnson, dywedodd fod “nifer o bobol oedd wedi ymddwyn yn wael yn ystod y cyfnod hwnnw”, ond fod y cyn-brif weinidog wedi gorfod ysgwyddo’r bai fel “y boi ar y top”.

“O ran Sue Gray, rydyn ni i gyd yn gwybod beth mae hi eisiau ei wneud nesaf, mae hi eisiau gweithio i Keir Starmer,” meddai wedyn.

“Mae’n rhaid ei bod hi wedi bod yn siarad â fe ar y pryd, pan oedd hi fod i gyflwyno rheithfarn led-farnwrol, mewn modd gwrthrychol, ar Boris Johnson.”

Fe ddaeth i’r amlwg ar ôl i Syr Keir Starmer benodi Sue Gray ei bod hi wedi gwrthod y swydd rai misoedd ynghynt, a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pryd y bydd hi’n dechrau yn ei swydd yn swyddogol ond mae disgwyl y bydd yn rhaid iddi aros hyd at chwe mis.

Caethwasiaeth

Daeth i’r amlwg eisoes y bu ffrae rhwng Boris Johnson a Charles tros araith roedd Tywysog Cymru ar y pryd eisiau ei thraddodi am gaethwasiaeth.

Yn ôl Guto Harri, arweiniodd y ffrae at hollti’r berthynas rhwng y ddau, ar ôl i Charles feirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig tros gynlluniau dadleuol i ddanfon ffoaduriaid i Rwanda ar ôl iddyn nhw gyrraedd y glannau mewn cychod.

“Doedd dim cymaint o ddathlu pan aeth Boris a’r darpar-Frenin i Kigali, Rwanda,” meddai.

“Roedd y Tywysog Charles, fel ag yr oedd e bryd hynny, wedi beirniadu agwedd y llywodraeth tuag at gychod bach.

“Roedd e hefyd yn cynllunio araith ar gaethwasiaeth.

“Fe aeth Boris ato a’i rybuddio – ‘Byddwn i’n ofalus’, meddai, ‘neu bydd yn rhaid i chi werthu Dugiaeth Cernyw i dalu iawndal i’r rhai oedd wedi ei adeiladu’.

“Wnaeth y berthynas fyth adfer yn llawn.”

Guto’n gadael gyda Boris

Huw Bebb

Roedd ei amser yn Rhif 10 yn “llawer rhy fyr” yn ôl Guto Harri, ac mae wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o “ddangos awydd i achosi niwed i’w hunain”

Guto Harri, Cyfarwyddwr Cyfathrebu’r Prif Weinidog, yn gadael Rhif 10

“Ar brydiau, yn arbennig pan oedd y blaid Geidwadol yn dangos awydd i achosi niwed i’w hun, roedd yn greulon,” meddai am ei gyfnod yn y rôl

Guto Harri yn ateb y Cymry sy’n ei feirniadu

Jacob Morris

“Mae yna bob math o sylwadau dirmygus yn fy erbyn i fel Cymro Cymraeg, gwladgarol, cydwybodol”

Y twll a Guto Harri

Dylan Iorwerth

“Tybed a yw’n dychmygu bod cyfle i droi Boris Johnson yn ôl i’r gwleidydd rhyddfrydol yr oedd yn ei edmygu pan oedd yn Faer Llundain?”