Mewn cyfweliad estynedig gyda chylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae Guto Harri wedi bod yn trafod y beirniadu fu arno ers iddo gamu i swydd bwysig yn swyddfa Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Hefyd, mae Cyfarwyddwr Cyfathrebu newydd Boris Johnson yn dweud bod angen i’w fos newydd ad-dalu ffydd y rhai wnaeth roi mwyafrif swmpus iddo yn San Steffan.
Ers ei benodi i swydd bwysig yn Downing Street, mae rhai Cymry wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn beirniadu a gwawdio Guto Harri.
Ac mae gan Gyfarwyddwr Cyfathrebu newydd Prif Weinidog Prydain neges i’r rhai sy’n cwyno.
“Weithiau fyddai’n neis petai Cymry Cymraeg yn gallu edrych tu hwnt i’r hyn maen nhw’n tybio yw personoliaeth un dyn,” meddai Guto Harri wrth gylchgrawn Golwg,
“A gallu gweld nad yw e ddim yn beth gwael i gael Cymro Cymraeg, gwladgarol sydd yn falch ofnadwy o’i dreftadaeth, nawr yn un o’r swyddi mwyaf canolog yn Downing Street.
“Mae’n drueni ac yn fy siomi i fod lefel y drafodaeth yn gallu llithro’n arwynebol ac yn blentynnaidd yn hynny o beth.
“Mae yna gymaint o bobol yng Nghymru yn trin gwleidyddiaeth fel gêm bêl-droed gan ddewis eu lliw a gweiddi’n groch o blaid eu lliw, neu’n erbyn lliw rhywun arall.
“Mae yna bob math o sylwadau dirmygus yn fy erbyn i fel Cymro Cymraeg, gwladgarol, cydwybodol sydd nawr yn mynd mewn i wasaneth cyhoeddus i swydd a fydd yn sialens aruthrol, heb unrhyw werthfawrogiad y gall hyn fod yn beth da.”
‘Mae’n bryd tynnu bys mas’
Does dim gwadu bod Boris Johnson yn wleidydd llwyddiannus sydd wedi llwyddo i gael ei ethol yn Faer Llundain, wedi bod yn ganolog i lwyddiant y bleidlais o blaid Brexit, a sicrhau’r mwyafrif mwyaf sylweddol i’r Blaid Geidwadol ar lefel Brydeinig ers y 1980au.
Fe lwyddodd i ddymchwel y Wal Goch yng ngogledd Lloegr a chipio sawl etholaeth annisgwyl yng Nghymru yn etholiad 2019.
Ac mae Guto Harri yn dweud mai’r flaenoriaeth yw ad-dalu ffydd y pleidleiswyr hyn yn Boris Johnson.
“Mewn seddi fel Pen-y-Bont, Ynys Môn, Wrecsam ac eraill ar draws gogledd Lloegr, fe wnaeth pobol sydd bron byth, neu sydd fyth, wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr gymryd llam o ffydd yn yr etholiad diwethaf.
“Ac mae angen rhoi sylw priodol i ardaloedd yn Lloegr a Chymru sydd wedi cael eu hesgeuluso a’u hanghofio am ddegawdau gan wahanol lywodraethau.
“Mae [Boris Johnson] yn ymwybodol fod angen ad-dalu’r ardaloedd hynny a’r buddsoddiad personol maen nhw wedi rhoi ynddo fe fel unigolyn.
“Wnaethon nhw ddim cwympo mewn cariad â’r Blaid Geidwadol, ond fe wnaethon nhw benderfynu rhoi cynnig i ddyn o’r enw Boris Johnson oedd yn cynnig rhywbeth nad ydy Ceidwadaeth wedi gwneud ers amser maeth.
“Mae Covid wedi rhoi cnoc i’r llywodraeth oddi ar ei hechel gan ohirio pob math o bethau ddylai fod wedi digwydd erbyn hyn. Ond mae’r cloc yn tician cyn bod yr Aelodau Seneddol yn mynd nôl at yr etholwyr i ofyn a allan nhw barhau.
“Mae’n bryd tynnu bys mas a rhoi’r trwyn ar y maen a gwneud yn siŵr fod yr addewidion yna yn cael eu cadw.”
- Cyfweliad Guto Harri yn llawn yng nghylchgrawn Golwg, sydd ar werth yn eich siop leol, neu mi fedrwch chi danysgrifio i ddarllen y cylchgrawn ar y We drwy fynd i Golwg+