Mae staff yn Ysgol Howell’s yng Nghaerdydd sy’n aelodau o’r undeb NEU yn streicio heddiw (dydd Iau, Chwefror 10) tros gynlluniau i ddiswyddo ac ailgyflogi staff.
Daw hyn wrth i’r ymddiriedolaeth mae’r ysgol yn rhan ohoni yn bygwth diswyddo ac ailgyflogi staff os nad ydyn nhw’n cytuno i ostyngiad yn eu pensiwn.
Bu’r aelodau’n rhan o linell biced o amgylch yr ysgol i dynnu sylw at y cynlluniau i dorri 20% oddi ar eu pensiwn.
Yn ôl David Evans, Ysgrifennydd Cymru’r NEU, mae’r staff yn streicio “gyda chalon drom”.
“Mae ein haelodau eisiau bod yn yr ysgol yn cefnogi’r bobol ifanc maen nhw’n eu dysgu bob dydd.
“Gall [ymddiriedolaeth] GDST wneud i’r gweithredu hwn ddod i ben.
“Gallan nhw dynnu eu cynlluniau i dorri pensiynau athrawon sy’n gweithio’n galed yn ôl.
“All hi ddim bod yn iawn fod y cynlluniau hyn wedi cael eu cyflwyno pan ydyn ni’n gwybod nad oes angen i’r GDST wneud hyn.”
‘Rhy hwyr’
Yn ôl David Evans, bydd cyhoeddi canlyniad terfynol yr Ymddiriedolaeth ar ddiwedd y mis yn “rhy hwyr”.
“Bydd gweithredu drwy streic ar Chwefror 10 yn anfon neges glir i rieni a’r cyhoedd yn ehangach fod y GDST yn cymryd y trywydd anghywir,” meddai.
“Rydym yn galw ar Gyngor Ymddiriedolaeth Ysgol Ddydd y Merched (GDST) i dynnu’r cynnig i adael y Cynllun Pensiwn Athrawon yn ôl yn ddiamod nawr, nid yn nes ymlaen.
“Dyna’r ffordd fwyaf sicr o ddatrys y mater hwn ac osgoi gweithredu drwy streic.”