Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn hunanynysu ar ôl profi’n bositif am Covid-19.
Datgelodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Prif Weinidog wedi profi’n bositif am y feirws ar ôl cymryd prawf PCR.
Daw’r newyddion ddiwrnod cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu hadolygiad diweddaraf o ddeddfwriaeth coronafeirws yfory (dydd Gwener, Chwefror 11).
Bydd Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Evonomi, yn cymryd lle’r Prif Weinidog yn y gynhadledd i’r wasg honno.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth BBC Cymru ei fod yn gweithio o bell.