Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi talu teyrnged i seiciatrydd ymgynghorol gafodd ei ladd mewn ymosodiad homoffobig yng Nghaerdydd, gan ddweud ei fod yn dangos “pa mor bell sydd gennym ni i fynd”.
Bu farw Dr Gary Jenkins, 54, ar ôl i griw ymosod arno ym Mharc Bute yn oriau mân Gorffennaf 20 y llynedd.
Cafwyd dau ddyn a merch 17 oed yn euog yn Llys y Goron Merthyr Tudful o’i lofruddiaeth yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Hannah Blythyn AoS, y dirprwy weinidog dros bartneriaeth gymdeithasol, wrth gyfarfod llawn yn y Senedd ddydd Mercher (Chwefror 9) fod y gymuned LGBTQ+ wedi “teimlo effaith ddofn yr ymosodiad hwn”.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn “benderfynol” yn eu hymrwymiad i wneud Cymru’r genedl fwyaf cyfeillgar i LGBTQ+ yn Ewrop.
Wrth ymateb i gwestiwn gan AoS Ogwr, Huw Irranca-Davies, dywedodd Hannah Blythyn fod “y gymuned LGBTQ+ yng Nghaerdydd a thu hwnt wedi teimlo effaith ddofn yr ymosodiad hwn”.
“Fe wnaethon ni siarad yr wythnos ddiwethaf fel rhan o fis hanes LHDT am ba mor bell rydyn ni wedi dod, ond mae’n dangos yn y ffordd fwyaf creulon bosib pa mor bell sydd gennym ni i fynd.
“Dyma’r pegwn creulonaf, ond mae cymaint o bobl LGBTQ+, gan gynnwys fi fy hun, yn dal i wynebu sylwadau creulon yn ddyddiol, a ddim yn teimlo fel y gallwn ddal llaw ein hanwyliaid i gerdded i lawr y stryd.
“Dyna pam ei bod hi’n bwysig ein bod yn siarad am ein profiadau ac yn defnyddio ein platfform yn y siambr hon er gwell.”
‘Cydymdeimlad dwysaf a diffuant’
Talodd Huw Irranca-Davies deyrnged i Dr Gary Jenkins hefyd.
“Rwy’n siŵr fy mod yn siarad ar ran pob aelod pan fyddaf yn dweud bod ein cydymdeimlad dwysaf a diffuant yn mynd allan i’w deulu, ei ffrindiau a phawb sy’n galaru.
“Roedd yn ddyn a neilltuodd ei fywyd i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n cael ei ddisgrifio gan bawb a oedd yn ei adnabod fel un caredig a thosturiol.
“Bydd Dr Jenkins yn cael ei gofio felly ac am ei wasanaeth i’n cenedl.”
Cyn y sesiwn, safodd Huw Irranca-Davies a Hannah Blythyn â nifer o aelodau llafur eraill Cymru ar risiau’r Senedd i ddangos eu hundod â’r gymuned LGBTQ+.
Yn y cyfamser, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod angen gwneud mwy mewn ysgolion i amddiffyn pobol rhag camdriniaeth homoffobig, wedi i adroddiad gan arolygiaeth addysg Cymru, Estyn, ganfod fod adroddiadau o ddigwyddiadau o’r fath yn codi.