Stori Gymreig fawr yr wythnos oedd ‘dyrchafiad arall i Gymro’ – penodiad Guto Harri a’i gyfweliad diddorol cynta’ efo golwg360. Ond, mae’n deg dweud nad ydi ei gydwladwyr o flogwyr yn or-falch am hynny …

“…parhau y mae’r ymgais i gynnal yr anghynaladwy, ac oedi’r anorfod, gyda chyhoeddi bod Guto Harri yn dychwelyd at ochr y Prif Weinidog i’w helpu i’w gloddio allan o’r twll y mae ynddo – twll a greodd ei hun i raddau helaeth. O gofio disgrifiadau Harri ei hun o Johnson yn y blynyddoedd diweddar… all neb ddadlau ei fod yn mynd i mewn gyda’i lygaid ynghau… gallaf ddeall, er hynny, pam y byddai gweithiwr PR proffesiynol yn gweld hyn yn gyfle oes i roi polish ar dalp o gachu…” (John Dixon ar borthlas.blogspot.com)

“Efallai nad oedd ymresymu gwleidyddol Guto Harri… wedi mynd fawr pellach na chymryd cyfle unwaith-mewn-oes i fod wrth galon grym Prydeinig. Ond tybed a yw’n dychmygu bod cyfle i droi Boris Johnson yn ôl o ‘Brexit Boris’ i’r gwleidydd rhyddfrydol yr oedd yn ei edmygu pan oedd yn Faer Llundain yn 2012? Mae’r Ceidwadwyr wrthi’n chwilio am ddewis arall yn lle Boris Johnson ac efallai fod Guto Harri wedi gamblo mai’r dyn gorau ar gyfer y swydd honno yw Boris ei hun.” (Ifan Morgan Jones ar nation.cymru)

Ar ôl ymosodiad personol Boris Johnson ar yr arweinydd Llafur, Keir Starmer, ynglŷn ag erlyn Jimmy Savile, does gan cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ddim amheuaeth am faint y dasg i’r Cymro …

“… parhaodd gyda’i arfer o ddweud beth bynnag sydd eisiau i ddod mas o dwll. Hawliodd e fod trosedd i lawr. Dyw e ddim. Hawliodd ei fod e wedi adeiladu 30 ysbyty newydd. Dyw e ddim. Hawliodd ei fod e wedi cyflawni Brexit, ond mae’r saga barhaus dros brotocol Gogledd Iwerddon yn adrodd stori wahanol. Doedd e ddim yn gallu peidio pentyrru nonsens ar ben nonsens i’w achub ei hun. Roedd hi hefyd yn glir, yn hytrach na bod yn fachan cymdeithasol llawn hwyl, mae elfen gas iawn yn y Prif Weinidog. Mae’n sglyfaeth i’w anallu ei hun i ddelio’n iawn â dim.” (thenational.wales)

Yn yr Alban, maen nhw’n mynd ymhellach. Fe fenthyciodd thenational.wales erthygl gan ei chwaer gyhoeddiad yno, yn trafod jiwbilî platinwm Lisabeth o Windsor …

“Rydyn ni’n caniatáu iddi fod yn Frenhines, heb broses ddewis nac ethol, yn ei chadw hi a’i theulu mewn moethusrwydd, yn gadael iddi osgoi trethi go-iawn ac yn caniatáu iddi hi ac aer y Goron osgoi deddfwriaeth. Mae’n ymddangos mai hi ddylai fod yn diolch i ni – achos pobol y Deyrnas Unedig sy’n caniatáu’r system ffiwdal, hynafol amhosib-ei-hamddiffyn i barhau yn ein henw ni.” (Gerry Hassan)