Ar ôl bod ar y gweill am dair blynedd, mae trefnydd arddangosfa o waith cyn-fyfyrwyr cwrs Sylfaen Celf Coleg Menai yn falch ei bod hi’n agored i’r cyhoedd…

Cafodd y cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai ei sefydlu gan yr artist adnabyddus Peter Prendergast a’i gyfoedion yn 1981, ac eleni mae ei fab wedi trefnu arddangosfa i ddathlu’r 40 mlwyddiant, 40+1 – Sylfaen Celf Bangor.