Mae deiseb yn galw ar Charles, Brenin newydd Lloegr, i roi pardwn i Dic Penderyn wedi cael ei lansio dros benwythnos y coroni.
Y gred yw fod Richard Lewis, neu Dic Penderyn, wedi cael ei grogi ar gam am ei ran yng Ngwrthryfel Merthyr yn 1831.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ddydd Llun diwethaf (Mai 1), bu Rob Curtis, sylfaenydd y ddeiseb, yn ymweld â bedd Dic Penderyn yn Aberafan a phenderfynu dechrau’r ddeiseb yn galw am gyfiawnder.
O ystyried bod dros 50 o brotestwyr wedi cael eu harestio yn Llundain yn ystod gwrthdystiadau’r coroni dros y penwythnos, mae Rob Curtis, sy’n aelod o’r Blaid Werdd yn y Barri, yn dweud ei bod hi’n addas gyrru neges nawr nad “protestwyr yw’r gelyn”.
“Mae deisebau wedi bod yn y gorffennol, ond meddyliais fod hwn yn gyfle ardderchog i’r brenin newydd wneud rhywbeth cadarnhaol yn hytrach na gwneud llawer o ddim byd,” meddai wrth golwg360.
“Roeddwn i lawr yno ar fy mhen fy hun, doedd yna neb arall yno, a meddyliais ei fod e’r peth perffaith i drio gwneud yn iawn.
“Pan ydych chi’n dysgu am Dic Penderyn a’r ffordd gafodd ei drin fel scapegoat gan y llywodraeth ar y pryd, dydy hi ond yn iawn ein bod ni’n edrych ar hanes heb rose-tinted glasses, ond gan edrych go iawn a gweld yr anghyfiawnder.
“Mae hi i fyny i ni i wneud iawn am yr anghyfiawnder hwnnw, a dw i’n gobeithio cael gymaint o gefnogaeth â phosib.
“Y mwyaf ydy’r ddeiseb, y mwyaf fydd y llais fydd yn cyrraedd y Brenin Charles, gobeithio.”
‘Nawr yn gyfle da’
Er nad oedd tystiolaeth bod Dic Penderyn wedi trywanu milwr â bidog, cafodd ei grogi ar Awst 13, 1831 yng Nghaerdydd.
Ei eiriau olaf, yn ôl y sôn, oedd “O, Arglwydd! Dyma gamwedd.”
Roedd Richard Lewis yn un o ddau ddyn gafodd eu dedfrydu i farwolaeth ar ôl Gwrthryfel y Gweithwyr ym Merthyr, tra bod eraill wedi cael eu gyrru i Awstralia neu eu carcharu am eu rhan yn yr hanes.
Fodd bynnag, cafodd dedfryd yr ail ddyn, Lewis Lewis, ei lleihau a chafodd ei allforio.
Mae’n debyg bod y llywodraeth ar y pryd yn awyddus i o leiaf un o’r protestwyr farw, fel ei fod yn esiampl i annog eraill i beidio â cheisio gwrthryfela eto.
“Fe wnaeth pobol fel Dic Penderyn sefyll i fyny a phrotestio a thalu’r pris,” meddai Rob Curtis wedyn.
“Dw i’n meddwl ei fod yn gyfle da nawr, oherwydd rydyn ni mewn adeg lle mae’r llywodraeth hon yn llymhau’r rheolau a’r hawl i brotestio, a dw i’n meddwl ei bod hi’n adeg dda i yrru’r neges honno – nad y protestwyr yw’r gelyn.
“Protestwyr yw’r rhai sy’n newid cymdeithas er gwell, rydych chi’n edrych ar hanes ac mae unrhyw hawl a breintiau sydd gennym ni nawr – o’r hawl i bleidleisio i gyfreithiau gwrth-hiliaeth – wedi eu hennill drwy bobol yn protestio a chwffio drostyn nhw.
“Roedd Dic Penderyn yn un o’r rheiny gafodd ei dargedu a’i wneud fel scapegoat, a thalu gyda’i fywyd – sy’n anghywir.
“Gobeithio bod y Brenin Charles yn frenin teg, ac y bydd yn edrych ar hwn ac yn meddwl mai dyna’r peth cywir i’w wneud.
“Dw i ddim yn frenhinwr fy hun, dw i’n weriniaethwr ond mae hynny’n rywbeth tymor hir – newid safbwynt y Deyrnas Unedig am hynny.
“Ond mae’n dechrau drwy roi hanes yn iawn, edrych yn ôl a dweud bod y dyn hwn yn haeddu pardwn gan ei fod yn brotestiwr.”