Mae protestwyr wedi bod yn ymgasglu tu allan i Lys y Goron Caernarfon heddiw (dydd Mawrth, Mai 9) i gefnogi protestwyr sydd wedi’u cyhuddo o achosi difrod troseddol i ffatri arfau Teledyne yn Llanandras sy’n rhoi arfau i Israel.
Mae’r diffynyddion wedi bod yn y ddalfa ers 152 o ddiwrnodau heb fechnïaeth yn dilyn eu protest ddi-drais.
Mae un o’r protestwyr oedd tu allan i’r llys yn amcangyfrif bod 30 o bobol wedi dod ynghyd i ddangos eu cefnogaeth i’r diffynyddion sy’n cael eu hadnabod fel Pedwar Teledyne – Morwenna Grey, Ruth Hogg, Tristan Dixon a Susan Bagshaw.
Maen nhw’n dod o Fachynlleth, Comins Coch ac Aberystwyth, ac mae gan un arall gysylltiadau ag Aberystwyth ond yn byw yn Swydd Hertford.
Roedd nifer o unigolion yn cynrychioli mudiadau yn y brotest funud olaf, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, Cymdeithas y Cymod, Grŵp Heddwch a Chyfiawnder Bangor, Uno’r Undeb, Palestine Solidarity Campaign a Palestine Action.
Yn ôl Anna Jane, un o’r protestwyr, mae gan nifer fawr o bobol yn y gogledd ddiddordeb yn y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina, ac maen nhw wedi bod yn ymgyrchu dros y blynyddoedd yn sgil y sefyllfa.
Gweithredu uniongyrchol
Gweithredodd Pedwar Teledyne yn uniongyrchol yn erbyn y ffatri yn Llanandras ym Mhowys, a chael eu cyhuddo o ddifrod troseddol.
Eu 152 o ddiwrnodau yn y ddalfa ydy’r cyfnod hiraf mae’r protestiwr Anna Jane wedi clywed am bobol yn cael eu cadw heb fechnïaeth am brotest ddi-drais.
“Mae’r pedwar diffinydd wedi cael eu cyhuddo o achos o ddifrod troseddol yn erbyn y ffatri arfau yma lawr yn Llanandras,” meddai Anna Jane wrth golwg360.
“Maen nhw wedi cael eu dal yn y ddalfa ers mis Rhagfyr flwyddyn ddiwethaf heb gael mechnïaeth.
“Maen nhw wedi cael gwrthod mechnïaeth iddyn nhw ddwywaith.
“Maen nhw wedi bod yn y ddalfa am 152 diwrnod cyn bod yr achos wedi cyrraedd y llys, sef y cyfnod hiraf yn hanes unrhyw fath o ymgyrchwyr dros hawliau Palestiniaid neu unrhyw brotest arall ddi-drais rydym yn gwybod amdani i gael ei dal yn y llys ar remand.
“Heddiw oedd y diwrnod cyntaf, ac maen nhw’n rhagweld bod o’n mynd i bara pythefnos.”
Dangos cefnogaeth
Bydd pobol yn dangos cefnogaeth i’r difinyddion drwy ddod i’r llys, tu fewn a thu allan, am y bythefnos fyddan nhw yn y llys.
Dywed Anna Jane fod cael eu carcharu am gyhyd heb fechnïaeth am weithred ddi-drais wedi bod yn sioc i’r diffynyddion, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach, a bod pobol eisiau dangos eu cefnogaeth.
“Dydyn ddim yn gwybod os oedd y brotest yn llwyddiant oherwydd mae’r achos llys am bara pythefnos,” meddai wedyn.
“Rydym am fod tu allan i’r llys ac yn y llys bob dydd am y bythefnos nesaf, yn trio cefnogi y diffynyddion a’u teuluoedd oherwydd mae wedi bod yn goblyn o sioc.
“Pan mae rhywun yn cynnal gweithred ddi-drais ac yn cymryd cyfrifoldeb am hynny, dydy rhywun ddim yn disgwyl cael eu carcharu am bum mis a chael gwrthod mechnïaeth fel hyn.
“Mae wedi bod yn sioc anferth i’r diffynyddion a’u teuluoedd.
“Allan o’r bobol tu allan i’r llys heddiw, lleiafrif bach ohonyn nhw oedd yn nabod y difinyddion.
“[Maen nhw’n] bobol sydd yn teimlo yn gryf bod hyn yn gosod patrwm hollol sinistr ynglŷn â’r ffordd mae troseddau, y ffordd mae’r heddlu a’r system gyfiawnder yn cael eu redeg ar hyn o bryd.
“Mae’n dychryn rhywun, a dweud y gwir, fod hyn yn bosib.”
Ffatri arfau
Yn ôl Anna Jane, mae ffatri Teledyne yn creu arfau i Israel sydd yn gyfrifol am ladd plant.
“Arbenigedd y ffatri Teledyne ydy technoleg targedu a surveillance, ac actually targedu,” meddai.
“Mae’n dechnoleg sy’n cael ei defnyddio mewn drones ac yn yr awyrennau rhyfel sydd gan Israel.
“Teledyne ydy un o’r allforwyr arfau neu un o’r technolegau arfau mwyaf o Brydain i Israel.
“Rwy’n meddwl mai yn 2014 y gwnaeth yna bedwar bachgen bach gael eu lladd gan ddrôn wrth iddyn nhw chware pêl-droed ar y traeth yn Gaza.
“Technoleg Teledyne oedd yn y drôn yna, felly roedd y protestwyr yn cynnal y weithred yn erbyn y ffatri i dynnu sylw at y ffaith fod y ffatri yma ar dir Cymru yn rhan annatod o drais a lladd, ac mae eisiau dal cwmnïau arfau [i gyfrif].
“Dyna pam rydym ni’n eu cefnogi nhw.”