Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi llais plant a phobol ifanc wrth galon cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau gofal.
Cafodd datganiad yn ymrwymo i ddiwygio gwasanaethau gofal plant a phobol ifanc ei lofnodi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw (dydd Mawrth, Mai 10).
Fel rhan o’r datganiad, mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i wneud popeth posib i gadw plant a theuluoedd gyda’i gilydd, ac i roi plant yn gyntaf ym mhopeth maen nhw’n ei wneud.
Cafodd y datganiad ei lunio ar y cyd gan blant a phobol ifanc sydd â phrofiad o ofal, a gweinidogion.
Maen nhw hefyd wedi ymrwymo i leihau nifer y plant sy’n cyrraedd y system ofal, ac i sicrhau bod plant sydd mewn gofal yn aros yn agos at adref fel y gallan nhw barhau i fod yn rhan o’u cymuned.
Cafodd y datganiad ei ddatblygu gan dîm o lysgenhadon ifanc o Voices from Care Cymru a gweinidogion Cymru, yn dilyn yr uwchgynhadledd gyntaf erioed ar gyfer plant a phobol ifanc mewn gofal ac unigolion sy’n gadael gofal yng Nghymru y llynedd.
‘Gwireddu newid’
Dywed Paris A’Herne, un o’r llysgenhadon ifanc fu’n helpu i ddatblygu’r datganiad, ei bod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru’n gwybod fod llawer gormod o blant mewn gofal yn cael eu “gadael lawr”.
“Gwyddom y bydd yn cymryd amser i gyflawni popeth rydym wedi’i gytuno gyda’r gweinidogion yn y datganiad hwn, ond rydyn ni’n credu y tro hwn y bydd newid yn cael ei wireddu,” meddai.
Yn ôl Rhian Thomas, cyd-gadeirydd yr uwchgynhadledd y llynedd a llysgennad ifanc, “roedd y trafodaethau a gawsom gyda’r Gweinidogion yn yr uwchgynhadledd yn seiliedig ar ein profiadau ein hunain, ac ar brofiadau llawer o bobol ifanc sydd wedi cael profiad o ofal”.
“Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl blant yn y system ofal yn cael y profiad gorau posibl, lle bynnag maen nhw’n byw yng Nghymru,” meddai.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r gweinidogion a’u timau – a phawb yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobol ifanc sydd wedi cael profiad o ofal – i gyflawni’r addewid yn y datganiad.”
‘Datblygu gweledigaeth gyda’n gilydd’
Yn ôl Mark Drakeford, mae Llywodraeth Cymru “wedi ymrwymo i gyflawni diwygiad radical o wasanaethau gofal”, ac mae’n dweud y bydd y datganiad newydd yn darparu’r cynllun ar gyfer y gwaith.
“Rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae llysgenhadon ifanc wedi’i ddweud wrthym am eu profiadau a phrofiadau plant a phobol ifanc eraill sydd â phrofiad o ofal,” meddai.
“Gyda’n gilydd rydyn ni wedi datblygu’r weledigaeth hon ac fel Prif Weinidog Cymru, rwy’n falch o’i chefnogi.”