Mae dyfalu a dryswch ynghylch dyfodol arweinydd Plaid Cymru, yn dilyn adroddiad damniol i ddiwylliant y blaid a chyfarfod ymhlith Aelodau Senedd y blaid i drafod y sefyllfa.
Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau bod cyfarfod wedi’i gynnal yn y Senedd neithiwr (nos Fawrth, Mai 9), ond dydyn nhw ddim yn dweud pam.
Fe wnaeth yr adroddiad Prosiect Pawb gan Nerys Evans ganfod methiannau yn arweinyddiaeth Adam Price wrth fynd i’r afael â honiadau o aflonyddu rhywiol a bwlio.
Ymhlith casgliadau’r adroddiad roedd y ffaith nad oes camau yn eu lle i sicrhau dull dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol, a bod menywod wedi cael eu “gadael lawr” gan y blaid.
Roedd hefyd yn cyfeirio at achosion nad oedden nhw’n achosion unigol, a diwylliant o ofn wrth sôn am yr achosion hyn.
Fe wnaeth Adam Price ymddiheuro ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, ac roedd adroddiadau neithiwr ei fod e wedi cytuno i ymddiswyddo, ond does dim cadarnhad o hynny ar hyn o bryd.
Mae disgwyl i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru gyfarfod heddiw (dydd Mercher, Mai 10).
‘Does gen i ddim pelen grisial’
Wrth siarad ar y rhaglen Sharp End ar ITV Cymru neithiwr, dywedodd Llŷr Gruffydd nad oedd e’n gallu dyfalu beth fyddai pen draw’r sefyllfa.
“Does gen i ddim pelen grisial,” meddai, gan ychwanegu bod y mater yn un “corfforaethol ehangach”, ac nad oes modd rhoi’r bai “ar un unigolyn”.
“Mae’n gyfrifoldeb cilyddol, a gyda’n gilydd rŵan mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n ymateb mewn ffordd sy’n lleihau’r gweithgarwch yma yn y dyfodol,” meddai.
“Mae hynny’n golygu ein bod ni’n rhoi trefn arnon ni’n hunain.
“Mae’n broses mae sefydliadau eraill yn, neu wedi, mynd drwyddi.
“Ein cyfrifoldeb ni rŵan ydy sicrhau ein bod ni’n rhoi trefn arnon ni’n hunain, ac fel cadeirydd Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, dw i’n benderfynol y byddwn ni’n canolbwyntio’n ddiwyro ar hynny dros y cyfnod nesaf.”