Fydd “dim esgusodion” gan blaid Esquerra, a byddan nhw’n dilyn gweithdrefn gyfarwydd wrth ymdrin â sefyllfa Laura Borràs, Llefarydd Senedd Catalwnia sydd wedi’i gwahardd o’i gwaith ar hyn o bryd.
Yn ôl llefarydd Esquerra, byddan nhw’n “dilyn yr un camau, dim mwy a dim llai” gafodd eu cymryd pan wnaeth y Bwrdd Etholiadol symud Pau Juvillà o’i sedd mewn achos sydd bellach yn effeithio ar Borràs, sydd hefyd yn llywydd plaid Junts per Catalunya.
Ond fe fydd “un gwahaniaeth”, meddai llefarydd ar ran Esquerra, sef na fyddan nhw’n “rhoi esgusodion i neb nac yn egluro fersiwn o’r ffeithiau nad yw’n wir”.
Cafodd Borràs ei dedfrydu gan yr Uchel Lys i bedair blynedd a hanner o garchar am lygredd yn deillio o’r cyfnod pan oedd hi’n bennaeth ar Sefydliad Llythyron Catalwnia.
Mae hi hefyd wedi’i gwahardd rhag bod mewn swydd gyhoeddus am 13 o flynyddoedd, a chafodd hi ddirwy o 36,000 Ewro.
Ond mae hi wrthi’n apelio yn erbyn y ddedfryd, sydd heb ei chadarnhau’n derfynol eto.
Cafodd Borràs ei symud o’i sedd ar ôl i’r Bwrdd Etholiadol roi deng niwrnod i’w phlaid ddod i benderfyniad ynghylch ei dyfodol.
Ond fe wnaeth Senedd Catalwnia benderfynu nad oedd modd ei symud o’i rôl fel Llefarydd ar ôl y ddedfryd.
Yn achos Pau Juvillà o blaid CUP, collodd hwnnw ei sedd yn sgil yr un broses fis Ionawr y llynedd.
Yn y pen draw, fe ddaeth gorchymyn gan y Bwrdd Etholiadol fod yn rhaid iddo adael ei swydd.
Digwyddodd sefyllfa debyg yn achos Quim Torra o blaid Junts per Catalunya yn 2020.