Mae myfyrwyr a grwpiau prifysgol wedi cael eu cydnabod am eu gwaith o hybu’r iaith Wyddeleg mewn addysg.
Mae mudiadau megis Conradh na Gaeilge, USI a’r Awdurdod Addysg Uwch wedi dod ynghyd i roi gwobrau ar gyfer Gweithgarwch tros yr Iaith Wyddeleg yng ngwobrau Gníomhaí Gaeilge.
Dyma’r ail flwyddyn i’r gwobrau gael eu cynnal, ac fe gafodd Gníomhaí Gaeilge ei sefydlu er mwyn cysylltu myfyrwyr trydedd lefel â mentoriaid i’w cefnogi yn eu gwaith dros yr iaith Wyddeleg ac i annog myfyrwyr trwy wobrwyo’u gwaith.
Cafodd y gwobrau eu cynnal yn Nulyn, ac fe dderbyniodd undebau myfyrwyr a chymdeithasau Gwyddeleg gyfanswm o 19 o wobrau am eu gwaith ar gampysau ledled Iwerddon yn hybu’r iaith.
Cafodd 27 o wobrau unigol eu rhoi i fyfyrwyr am eu gweithredoedd personol dros yr iaith hefyd.
‘Eithriadol o falch’
“Fel nifer o bobol eraill, fe wnes i gofrestru gyntaf gyda Conradh na Gaeilge yn ystod dyddiau fy ngradd is-raddedig, ac fe wnaeth y penderfyniad gyfoethogi fy mywyd yn llwyr,” meddai Paula Melvin, llywydd Conradh na Gaeilge.
“Dw i’n eithriadol o falch o’r gwaith rydyn ni’n parhau i’w gwblhau ar y drydedd lefel gyda phobol ifanc.
“Dw i wrth fy modd ein bod ni’n gallu parhau â’r cynllun gwych Gníomhaí Gaeilge eleni, a hwnnw’n grymuso canghennau ein prifysgolion i gefnogi’r iaith Wyddeleg.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Awdurdod Addysg Uwch am eu cefnogaeth barhaus.”