Mae Prif Weinidog Cymru’n dweud nad oes “dim un person heb lety”, yn dilyn cwestiwn gan y Ceidwadwyr Cymreig am sefyllfa ffoaduriaid o Wcráin.
Fe fu adroddiadau ers tro fod ffoaduriaid sydd wedi gadael y wlad i ddod i Gymru yn sgil y rhyfel â Rwsia yn wynebu “dyfodol ansicr” wrth i ganolfannau croeso gau, gyda llai o noddwyr erbyn hyn yn barod i gynnig lloches.
Fe wnaeth Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, holi Mark Drakeford ynghylch yr hyn sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
“Fis Chwefror, fe wnaeth y cyfryngau Cymreig adrodd – a dw i’n dyfynnu – fod “cannoedd o Wcreiniaid gyrhaeddodd yng Nghymru trwy gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru’n wynebu dyfodol ansicr wrth i ganolfannau croeso gau ac mae noddwyr yn parhau’n amharod i ddod ymlaen’.
“Ac ‘er bod Llywodraeth Cymru wedi nodi eu bod nhw’n cydweithio’n agos â chynghorau lleol i gael ffoaduriaid o Wcráin i mewn i lety mwy hirdymor, fe wnaeth ffoaduriaid honni mai dim ond un ym mhob 100 o landlordiaid fydd yn derbyn rhywun o Wcráin.”
Aeth Mark Isherwood yn ei flaen i ddweud bod y Groes Goch yn rhybuddio bod angen gwell isadeiledd i gefnogi pobol o Wcráin i ymsefydlu yng Nghymru, ac y dylai Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gydweithio i sefydlu cynlluniau eraill i’w helpu ag eiddo ac yn ariannol.
Ymateb y Prif Weinidog
Wrth ymateb, dywedodd Prif Weinidog Cymru nad oes “dim un person wedi’i adael heb lety”.
“Er gwaetha’r pryderon gafodd eu mynegi, yn wir, mae dros 1,700 o westeion o Wcráin wedi cael eu symud yng Nghymru i lety mwy hirdymor,” meddai.
“Ac yn nhermau’r camau penodol sydd wedi’u cymryd, o’r £40m y soniais i amdano eiliad yn ôl, mae £4m o hynny yn benodol er mwyn helpu ein partneriaid awdurdod lleol wrth sicrhau llety ychwanegol i symud iddo, ac mae hynny yn wir yn cwmpasu rhai o’r pwyntiau wnaeth Mark Isherwood am helpu pobol sy’n gallu sicrhau rhywle mewn llety preifat gyda rhai o’r costau ymlaen llaw rydych chi’n eu hwynebu wrth geisio sicrhau llefydd yn y sector rhentu’n breifat.”