Mae Cymdeithas yr Iaith wedi codi cwestiynau ynghylch parodrwydd Cyngor Wrecsam i gefnogi siaradwyr Cymraeg.

Daw hyn ar ôl i’r Cyngor gymeradwyo’u Strategaeth Hybu’r Gymraeg ddoe (dydd Mawrth, Mai 9).

Tra bod y Gymdeithas yn derbyn ei bod yn “beth da” fod y Cyngor “yn derbyn bod cyfleoedd i blant ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd y tu allan i’r cartref a’r ysgol yn hanfodol”, maen nhw’n dweud nad yw “gweithgareddau achlysurol a dathliadau unwaith y flwyddyn yn cyflawni hyn”.

Maen nhw’n galw am adnabod a blaenoriaethu’r gweithgareddau mae plant a phobol ifanc yn eu gwneud yn rheolaidd trwy’r flwyddyn, a chreu strategaeth er mwyn darparu’r rhain trwy gyfrwng y Gymraeg.

Daw hyn yn fuan ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad yw’r Cyngor wedi llwyddo i ddod o hyd i hyfforddwr nofio sy’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, flwyddyn ar ôl iddyn nhw ddechrau hysbysebu’r swydd.

“Cred y cyngor er enghraifft y dylai pob plentyn ddysgu i nofio,” meddai Siân Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Mae safonau’r Gymraeg yn gosod dyletswydd statudol ar yr awdurdod i gynnig gwersi yn Gymraeg.

“Ond cael eu hamddifadu o hyd y mae plant y sir.”

Cefndir

Yn dilyn ymchwiliad yn 2020, a dyfarniad o fethiant i gydymffurfio â Safonau fyddai’n sicrhau gwersi nofio yn Gymraeg, bu i Gomisiynydd y Gymraeg orchymyn i’r awdurdod “uwch-sgilio mwy o staff i ymgymryd â gwersi nofio yn y Gymraeg”.

Dair blynedd yn ddiweddarach, dydy’r Cyngor ddim wedi gwneud hynny, a dydy gwersi nofio ddim ar gael yn Gymraeg o hyd.

“Mae’r Cyngor yn ailadrodd yr esgus bod prinder siaradwyr Cymraeg yn ceisio am swyddi ond gwir achos ei fethiannau yw diffyg strategaeth dros y blynyddoedd,” meddai Siân Howys.

“Mae’n dda gweld bwriad i gynyddu staff sy’n siarad Cymraeg ar draws y sefydliad ond eto does dim camau ar gyfer hynny heblaw gwneud y Gymraeg yn ofynnol i ragor o swyddi.

“Mae’n amlwg felly bod yr awdurdod yn parhau i lusgo ei draed o ran datblygu a buddsoddi yn ei gweithlu.

“Mae’n codi cwestiynau dilys am agwedd y cyngor a’i barodrwydd i gefnogi siaradwyr Cymraeg ifanc a’i staff ei hun.”