Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod rhaid i deuluoedd pedwar claf fu farw yn Ysbyty Glan Clwyd gael atebion, ar ôl iddi ddod i’r amlwg na chafodd holl amgylchiadau eu marwolaethau eu datgelu i’r crwner.

Fe fydd y crwner yn ymchwilio ymhellach i farwolaethau’r pedwar dyn yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Agorodd y cwest i farwolaethau Keith Hyde, Edmund Jones, Alan George ac Anthony Clemett ddoe (dydd Mawrth, Mai 9).

Roedd y pedwar yn derbyn triniaeth ar gyfer problemau’n ymwneud â chylchrediad y gwaed.

Cafodd gwasanaethau fasgwlaidd eu canoli yn yr ysbyty yn 2019, er gwaetha’r pryderon ynghylch symud triniaethau cymhleth o Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd.

Bu farw Keith Hyde o’r Rhyl ac Alan George o Dreffynnon fis Rhagfyr 2020, Edmund Jones o’r Rhyl fis Tachwedd 2020, ac Anthony Clemett o Feifod fis Ionawr 2021.

Fis Chwefror eleni, fe wnaeth adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon argymhellion “i fynd i’r afael â pheryglon i ddiogelwch cleifion”.

Cafodd yr achosion eu trosglwyddo i’r crwner yn dilyn adolygiadau roedd y bwrdd iechyd wedi gofyn amdanyn nhw, oedd yn edrych ar gofnodion 44 o gleifion yn sgil pryderon am ofal a thriniaethau fasgwlaidd.

Daeth i’r casgliad ar sail ymchwiliad cychwynnol, a heb yr holl wybodaeth, nad oedd angen ymchwilio ymhellach.

Ond penderfynodd maes o law fod “elfennau annaturiol” ynghlwm wrth yr achosion yr oedd angen ymchwilio iddyn nhw.

Bydd pob achos yn cael sylw unigol, ond byddan nhw hefyd yn cael eu trin gyda’i gilydd er mwyn cael y darlun llawn, ac mae’r cwest wedi’i ohirio am y tro.

‘Gwarthus’

“Mae cleifion a’u teuluoedd wedi talu pris uchel am gamreolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o ganoli gwasanaethau fasgwlaidd yng ngogledd Cymru,” meddai Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’n warthus na chafodd y marwolaethau hyn eu trosglwyddo i’r crwner tan bod adolygiad allanol o’u cofnodion clinigol yn gynharach eleni, ac alla i ddim dychmygu’r boen mae’n rhaid bod anwyliaid y pedwar unigolyn yma’n ei phrofi nawr.

“Rhaid i’r teuluoedd gael yr atebion maen nhw’n eu haeddu, a rhaid i’r bwrdd iechyd ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.”