Mae Heddlu Llundain wedi ymddiheuro wrth deulu’r Cymro Daniel Morgan, ar ôl iddyn nhw ddod o hyd i ddogfennau perthnasol i’r achos mewn cabinet yn Scotland Yard.
Doedd y cabinet heb gael ei ddefnyddio ers rhai blynyddoedd, meddai’r heddlu mewn datganiad.
Maen nhw’n dweud bod “asesiad gofalus” wedi cael ei gwblhau er mwyn “deall arwyddocâd y dogfennau ac unrhyw effaith bosib”.
Dylai rhywfaint o’r deunydd fod wedi cael ei roi i banel sy’n ymchwilio i farwolaeth Daniel Morgan, pan wnaethon nhw gyhoeddi eu hadroddiad terfynol fis Mehefin 2021.
Yn ôl y Comisiynydd Cynorthwyol Barbara Gray, mae Heddlu Llundain yn “cydnabod yn llawn” fod y sefyllfa’n “annerbyniol”.
Mae nifer o awdurdodau, gan gynnwys Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, Swyddfa Blismona Maer Llundain a’r Swyddfa Gartref wedi cael gwybod am y sefyllfa.
Y dogfennau
Mae ymchwiliad gan yr heddlu wedi dod o hyd i 95 o dudalennau allan o 37 o ddogfennau ddylai fod wedi cael eu datgelu i’r panel.
Roedd 71 yn rhagor o dudalennau allan o 23 o ddogfennau fyddai wedi cael eu rhoi i arolygiaeth yr heddlu a’r gwasanaeth tân i’w harchwilio.
Ond mae’r heddlu’n pwysleisio nad oes dogfennau o dystiolaeth ymhlith y dogfennau hyn sy’n ymwneud ag ymchwiliadau troseddol i lofruddiaeth Daniel Morgan.
Mae Heddlu Llundain wedi ysgrifennu at ei deulu er mwyn egluro’r sefyllfa ac i amlinellu’r hyn fydd yn digwydd nesaf.
Mae Arolygiaeth yr Heddlu wedi cytuno i adolygu’r dogfennau ac asesiad yr heddlu er mwyn trafod y ffordd ymlaen.
Mae Heddlu Llundain a Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn parhau i gydweithio ar y mater, ac maen nhw’n dweud y bydd y panel a theulu Daniel Morgan yn cael gweld y dogfennau dan sylw.
Pwy oedd Daniel Morgan?
Cafodd Daniel Morgan ei eni yn Singapôr yn 1949, yn fab i swyddog yn y fyddin.
Cafodd e, ei frawd a’i chwaer eu magu yn Sir Fynwy, ac fe aeth i goleg amaethyddol cyn mynd i Ddenmarc i ffermio.
Roedd ganddo gof am fanylion, ac fe sefydlodd asiantaeth ysbïo yn Llundain, lle bu’n byw gyda’i wraig a’u dau o blant.
Cafodd ei ladd â bwyell mewn maes parcio y tu allan i dafarn yn Llundain yn 1987.
Er bod nifer o ymchwiliadau wedi’u cynnal, doedd dim modd datrys ei farwolaeth.
Cafodd adroddiad adolygiad annibynnol i’w farwolaeth ei gyhoeddi yn 2021, oedd yn tynnu sylw at fethiannau a llygredd o fewn Heddlu Llundain.
Mae nifer o bobol wedi’u cyhuddo a’u cael yn euog o’i lofruddio dros y blynyddoedd, ond mae’r achos yn erbyn pob un ohonyn nhw wedi dod i ben yn aflwyddiannus.