Mae cysylltiad band llydan yn allweddol ar gyfer diogelwch yng Nghwm Idwal, yn ôl Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn.
Mae Canolfan Cwm Idwal yn ganolbwynt pwysig i ymwelwyr ers blynyddoedd lawer.
Ar un adeg yn fan lle nad oedd wi-fi na signal ffôn symudol, mae mynediad at fand eang cyflym iawn yno erbyn hyn, yn ogystal â rhwydwaith LoRaWAN gyda synwyryddion Rhyngrwyd y Pethau.
Mae Menter Môn wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Phartneriaeth Cwm Idwal, sy’n cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, i gysylltu’r ganolfan ymwelwyr a’r tai a busnesau ar hyd y cwm gwledig hwn gyda band eang cyflym iawn.
Maen nhw hefyd wedi sefydlu rhwydwaith LoRaWAN, fydd yn caniatáu i synwyryddion Rhyngrwyd y Pethau fonitro ansawdd aer, lleithder, tymheredd a llawer mwy yn y cwm.
Mae’r prosiect wedi ei gefnogi gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig.
Bydd ymwelwyr yn gallu mewngofnodi ar wi-fi yn rhad ac am ddim, a bydd yn caniatáu iddyn nhw gael mynediad at wybodaeth ddefnyddiol, cadw mewn cysylltiad trwy anfon negeseuon a gwneud galwadau, a rhannu harddwch yr ardal ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae cynlluniau hefyd i ychwanegu codau QR o amgylch y ganolfan er mwyn rhannu mwy o wybodaeth, a fyddai hyn ddim yn bosibl heb wi-fi.
Gwybodaeth am yr ardal
Mae cyfoeth o wybodaeth ar gael am Gwm Idwal ar wefan arbennig gafodd ei chreu gan Bartneriaeth Cwm Idwal fydd bellach ar gael yn hawdd wrth ymweld â’r ardal.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am y bywyd gwyllt sydd i’w gael yno, hanes yr ardal, yr ecosystemau pwysig yno, a llawer mwy.
Mae myfyrwyr o ysgolion a phrifysgolion o bob rhan o’r wlad yn ymweld â Chwm Idwal i ddysgu, a bydd y wi-fi rhad ac am ddim yn gymorth gwych i’w haddysg.
Mae’r wi-fi hefyd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fusnesau yn yr ardal.
Mae hostel YHA Bwthyn Idwal wedi’i leoli gerllaw, ac mae gwesteion bellach yn gallu cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau yn ystod eu harhosiad.
Gallan nhw hefyd ymchwilio i bethau i’w gwneud yn yr ardal leol, megis dod o hyd i lefydd i fwyta neu chwilio am lwybrau ar y mynyddoedd.
Er bod y wi-fi wedi helpu i gysylltu pobol, bydd y band eang cyflym iawn hefyd yn caniatáu i ddyfeisiau gael eu cysylltu.
Diogelwch
Mae Menter Môn wedi gosod porth LoRaWAN yng Nghanolfan Cwm Idwal fydd yn caniatáu gosod synwyryddion ‘Rhyngrwyd y Pethau’ o amgylch y safle.
Gall y synwyryddion hyn fonitro llawer o bethau gwahanol fel tymheredd, lleithder a hyd yn oed os yw bin yn llawn.
Mae synwyryddion tymheredd newydd eisoes wedi’u gosod ar glogwyni uchel Cwm Idwal.
Bydd y rhain yn helpu i amddiffyn planhigion prin y Warchodfa Natur Genedlaethol rhag difrod yn ystod misoedd y gaeaf.
Pan fydd y tymheredd yn disgyn a’r eira yn dechrau pentyrru ar fynyddoedd Eryri, mae llawer o fynyddwyr yn edrych ymlaen at allu dringo iâ.
Yn aml dydy’r ddaear oddi tano ddim wedi rhewi, a gall defnyddio bwyelli iâ a chramponau ar laswellt sydd heb ei rewi niweidio’n ddifrifol y rhywogaethau planhigion prin sy’n byw yno.
Mae synwyryddion ar uchder uchel yn y cwm yn cofnodi tymheredd yr aer a’r ddaear ar wahanol ddyfnderoedd a throsglwyddir y wybodaeth hon i lawr gan ddefnyddio porth LoRaWAN i Ganolfan Cwm Idwal.
Mae modd cyfleu’r wybodaeth hon i ddringwyr gan ganiatáu iddyn nhw wneud penderfyniadau gwybodus wrth farnu a yw’r amodau’n briodol cyn iddynt ddechrau eu taith.
‘Cysylltiad wi-fi yng Nghwm Idwal yn bwysig’
Mae cysylltiad WIFI yn bwysig am sawl reswm, yn ôl Dafydd Gruffydd.
Mae angen i bobol gael gwybodaeth i wneud trefniadau, yn enwedig wrth feddwl am fynd i ddringo.
Mae sensor yn gallu dweud a yw’r tywydd yn addas ar gyfer dringo, ac mae hefyd yn bosib casglu data ar symudiadau pobol er mwyn gwneud trefniadau addas ar eu cyfer.
“Mae yna sawl rheswm pam bod cael cysylltiad WIFI yng Nghwm Idwal yn bwysig,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn wrth golwg360.
“Yn gyntaf, mae gen ti gysylltiad oherwydd does dim cysylltiad ffôn yna, does dim cysylltiad at band-eang yna.
“Mae gennych filoedd o ymwelwyr a phobol leol yn mynd i’r safle, ac maen nhw angen gwybodaeth.
“Efallai bo nhw angen gwybod beth ydy’r tywydd, efallai bo nhw angen gwneud trefniadau i gael lifft.
“Maen nhw angen gwybod sut mae hi o ran dringo ac yn y blaen.
“Mae cysylltiad yn rywbeth pwysig y dyddiau yma, yn enwedig mewn sefyllfa lle mae pobol yn mynd i ddringo ac yn y blaen.
“Hwnna ydy un rheswm.
“Mae’n rhoi cysylltiad i bobol lle nad oes cysylltiad ar hyn o bryd.
“Hefyd, mae’r dechnoleg yma’n ein galluogi ni i osod sensors a chael data.
“Rhywbeth sydd wedi digwydd yn barod yw rhoi sensors yn y pridd i roi gwybodaeth i ddringwyr.
“Er enghraifft, mae dringwyr yn licio dringo pan mae hi’n rhewi, pan mae yna rew.
“Mae rhaid iddi fod digon oer.
“Mae rhaid i’r rhew fod digon cadarn i chdi ei wneud yn ddiogel, neu mae’n gallu bod yn beryg.
“Er enghraifft, ti’n gallu gosod sensors yn y pridd ac mae’r sensors yn dweud os mae’n ddigon oer ac mae’r rhew ddigon cadarn i chdi wneud hynny.
“Mantais arall yw bo ni’n defnyddio’r dechnoleg yma i gasglu data ynglŷn â symudiad pobol.
“Rydym yn ei ddefnyddio fo mewn trefi.
“Medri di gyfri faint o bobol sy’n ymweld â’r safle, pryd maen nhw’n ymweld â’r safle, ac oes cysylltiad efo’r tywydd.
“Mae’n rhoi gwybodaeth i fudiadau, ac mae’r wybodaeth ar gael yn gyhoeddus.
“Mae’r wybodaeth yma wedyn yn caniatáu i’r Parc Cenedlaethol neu’r Cyngor Sir neu’r National Trust edrych a chyfri faint o bobol sy’n ymweld â’r safle.
“Mae’r data yna yn ddefnyddiol os ydach chi eisiau cynllunio pryd mae siop yn agor neu pryd rydach chi eisiau rhoi mwy o staff i mewn ac yn y blaen.
“Mae o’n ffordd o roi mynediad i gysylltiad i ymwelwyr, ond hefyd yn rhoi data i bobol sy’n byw yn yr ardal ynglŷn â faint o bobol sy’n ymweld ac yn y blaen.
“Mae yna sawl elfen iddo fo, mae yna dair elfen, os lici di.”
Cysylltiad am ddim
Mae’r cysylltiad yn rhad ac am ddim i ymwelwyr, pobol sy’n byw yn y Dyffryn a gweithwyr.
Yn ôl Dafydd Gruffydd, y peryg yw na fyddai pobol yn ei ddefnyddio pe bai’n rhaid iddyn nhw dalu.
“Y dyddiau yma, mae rhywun yn disgwyl bod cysylltiad am ddim,” meddai.
“Pe bysan ni’n codi ar ei gyfer o, beryg fysa pobol ddim yn ei ddefnyddio, bod rhywun eisiau mynediad am bum munud cyn mynd i ddringo – hyn, llall ag arall.
“Dydach chi ddim eisiau’i gymhlethu fo wrth godi amdano fo.
“Mae’r system yma wedi cysylltu nifer o ffermydd hefyd ar hyd Nant Ffrancon, ac mae’n mynd â band-eang mewn i’r bwthyn.
“Mae’r cysylltiad band-eang hefyd yn bwysig i’r gweithwyr sydd yno a’r bobol sy’n byw ar hyd y dyffryn.
“Mae’r wi-fi yna pryd bynnag.
“Dydy o ddim yna dim ond ar gyfer ymwelwyr, mae o ar gyfer pobol sy’n gweithio yno.
“Os ti’n cynnig o am ddim i ymwelwyr, waeth i chdi wneud hynny ddim na chodi, oherwydd ti jyst yn creu rhwystr arall wedyn.”
Menter Mon yn helpu Partneriaeth Cwm Idwal
Er bod Cwm Idwal yn ardal wledig, mae band-eang cyflym wedi’i osod y gall dyfeisiadau gysylltu ag o.
Yn ôl Dafydd Gruffydd, mae Menter Môn wedi bod yn llwyddiannus iawn yn gosod rhwydweithiau wi-fi a LORaWAN cymunedol.
“Rydym yn falch iawn bod Menter Môn wedi gallu helpu Partneriaeth Cwm Idwal i osod band eang cyflym iawn mewn ardal mor wledig â Chanolfan Cwm Idwal,” meddai.
“Nid yn unig y mae’r wi-fi yn caniatáu i bobol gysylltu, mae rhwydwaith LoRaWAN yn caniatáu i ddyfeisiau gysylltu hefyd.
“Mae gan Menter Môn hanes llwyddiannus iawn gyda gosod rhwydweithiau wi-fi a LoRaWAN cymunedol ar y Stryd Fawr ar draws Cymru, gyda synwyryddion yn cael eu gosod ar draws trefi i fesur pob mathau o bethau, er enghraifft biniau a lleoedd parcio.
“Ni allwn aros i weld beth mae Canolfan Cwm Idwal yn ei wneud nesaf gyda’r dechnoleg gyffrous hon.”
Cartref i blanhigion prinnaf Cymru
Yn ôl Rhys Wheldon-Roberts, Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal. bydd cael porth LoRaWAN yn helpu i warchod planhigion prin yr ardal.
“Mae Cwm Idwal yn gartref i rai o rywogaethau planhigion prinnaf Cymru, gan gynnwys rhywogaethau Arctig-Alpaidd fel Lili’r Wyddfa a’r Tormaen cyferbyn ddail, ond mae hefyd yn denu miloedd o ymwelwyr sy’n mwynhau’r ardal ar gyfer hamdden,” meddai.
“Mae cael porth LoRaWAN yng Nghanolfan Cwm Idwal wedi ein galluogi i uwchraddio’r offer a ddefnyddir i fesur y tymheredd ar glogwyni uchel Cwm Idwal, gan wneud y data’n fwy dibynadwy.
“Bydd hyn yn ein helpu i warchod y planhigion prin sydd gennym yma ond hefyd yn helpu’r dringwyr i gael diwrnod gwell ar y mynydd.”
Mae sawl mudiad wedi cydweithio ar y prosiect hwn efo Cyfoeth Naturiol Cymru, a bydd llawer o wybodaeth ar wefan Cwm Idwal y gall pobol fanteisio arni.
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hapus i gyfrannu at y prosiect hwn gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd a Menter Môn oherwydd ei fod yn help mawr i’r bobl sy’n ymweld â’r ardal,” meddai Molly Lovatt, Uwch Swyddog Mynediad, Hamdden a Phartneriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae llawer o wybodaeth ar wefan Cwm Idwal, a gall ymwelwyr nawr gysylltu â hi i gael mynediad at yr holl wybodaeth sydd yno.
“Mae hyn yn golygu bod popeth ar gael yn hawdd i ymwelwyr a myfyrwyr pan fyddan nhw yma.
“Rydym yn cael llawer o ysgolion a phrifysgolion yn ymweld, ac mae llawer ar y wefan y gallan nhw gysylltu â hi.
“Dim ond hyn a hyn o wybodaeth allwch ei darparu ar sgrin neu ar banel wal.
“Mae cael mynediad i’r rhyngrwyd yng Nghanolfan Cwm Idwal yn bwysig iawn.”
Staff yn gallu gweithio o’r safle
Yn ôl Adam Daniel, Pennaeth Gwasanaeth Wardeniaid Parc Cenedlaethol Eryri, oherwydd y WIFI newydd mae staff bellach yn gallu gweithio o’r safle.
“Mae gennym ni swyddfa yng Nghanolfan Cwm Idwal ar gyfer staff, ond tan yn ddiweddar roedd rhaid iddyn nhw weithio o adra rhan amlaf oherwydd y cyflymder rhyngrwyd araf iawn oedd ar gael drwy’r hen system lloeren,” meddai.
“Roedd yr hen gysylltiad yn aml ddim yn gweithio ac roedd yn cyfyngu ar faint o waith y gallai’r bartneriaeth ei wneud yma.
“Roedd hefyd yn effeithio ar allu’r busnes a leolir yn y ciosg yn y ganolfan i weithredu.
“Nawr bod gennym gysylltiad gwell a dibynadwy, mae wedi galluogi staff i ddod yma i weithio. Mae’r swyddfa fel adnodd yn amlwg wedi cynyddu ei werth.”
Cwsmeriaid yn gallu mynd ar-lein
Yn ôl Jeroen Paul Verbeek, Rheolwr YHA Bwthyn Idwal, oherwydd i’r band-eang cyflym gael ei osod mae eu cwsmeriaid yn gallu gwneud trefniadau ar-lein.
“Ers i’r band eang cyflym iawn gael ei osod yng Nghanolfan Cwm Idwal mae fy nghwsmeriaid wedi gallu mynd ar-lein,” meddai Jeroen Paul Verbeek.
“Mae’r galw’r dyddiau hyn yn fawr iawn am Wi-Fi, a gallwn o’r diwedd gynnig y gwasanaeth hwn i’n gwesteion.
“Gallant edrych i fyny llwybrau ar gyfer y mynyddoedd, chwilio am leoedd i fwyta gerllaw neu weld yr amserlenni bysiau, popeth na allent ei wneud o’r blaen.
“Gallant hefyd ei ddefnyddio i ffonio adref, peth syml ond nid oedd yn bosibl o’r blaen oherwydd nid oes signal ffôn symudol yma.”