Mae bwlio ymysg plant a phobol ifanc yn hen hanes, ond mae seibrfwlio’n ffordd newydd a haws o fwlio, yn ôl bachgen 13 oed sydd wedi dioddef.

Fe fu’r bachgen a’i fam yn siarad â golwg360 am eu profiadau, ac am effaith niweidiol seibrfwlio, a sut mae pobol ifanc yn mynd ati i fwlio’i gilydd ar-lein.

Er nad yw pobol ifanc i fod i gael ffonau symudol mewn rhai llefydd, gan gynnwys yn yr ysgol, maen nhw’n dal yn eu defnyddio nhw, ac felly mae seibrfwlio’n gallu digwydd yn unrhyw le ar unrhyw adeg.

‘Trawmatig iawn’

Roedd y bachgen, sydd eisiau aros yn ddienw, ond yn ddeuddeg oed pan gafodd ei seibrfwlio.

Roedd pobol yn anfon negeseuon bygythiol ato ac yn rhannu lluniau o’r gorffennol oedd yn codi cywilydd ar y arno, a chafodd hynny gryn effaith arno.

“Rydw i wedi cael fy seiberfwlio, roedd yn drawmatig iawn,” meddai’r bachgen wrth golwg360.

“Rydw i wedi bod yn ddioddefwr, ac mae’n straen mawr.

“Mae’n gwneud plant yn ofnus i fynd i’r ysgol, ac yn ofnus i fynd allan.

“Mae’n gwneud i chi deimlo’n ddiwerth, ac efo cywilydd.

“Roeddwn i’n ddeuddeg ar y pryd pan gefais fy seibrfwlio; nawr rydw i’n 13.

“Roedd pobol yn anfon negeseuon erchyll trwy Snapchat.

“Mae’n eich poeni chi, rydych chi’n poeni drwy’r amser gartref hefyd.

“Maen nhw’n anfon lluniau erchyll ac yn rhannu lluniau sy’n codi cywilydd o’r gorffennol.

“Mae popeth ar-lein nawr.

“Maen nhw wedi bod yn defnyddio hen luniau sy’n codi cywilydd, a fy hen gyfrif TikTok.

“Maen nhw’n dangos ac yn sbeitio fi, ac yn eu lledaenu o gwmpas y dosbarth, ac mae pawb yn chwerthin.”

Hawdd i blant dargedu’i gilydd

Yn ôl y fam, sydd hefyd eisiau aros yn ddienw, mae seibrfwlio yn ddull o fwlio sydd yn haws na’r dulliau traddodiadol, ac mae’n effeithio ar blant bob awr o’r dydd.

“Mae’n broblem gyda ffonau symudol heddiw, a’r cyfryngau cymdeithasol,” meddai’r fam.

“Mae hi mor hawdd rhannu pethau am blant eraill ac anfon negeseuon bygythiol.

“Mae’n ffordd o fwlio nawr lle mae’n llawer haws i blant dargedu ei gilydd.

“Gallwch dargedu plant yn eu cartrefi eu hunain yn uniongyrchol.

“Maen nhw’n teimlo na allan nhw fod i ffwrdd oddi wrtho, hyd yn oed gartref.

“Mae gan blant sy’n seibrfwlio bob amser fynediad at dargedu plant eraill rywsut.”

Mynd at wraidd y broblem

Er na ddylai pobol ifanc ddefnyddio’u ffonau symudol yn yr ysgol, mae rhai yn gwneud serch hynny, ac mae rhai athrawon yn dechrau cymryd camau i ddelio â hyn.

Ond mewn digwyddiadau eithriadol, gall yr heddlu ymdrin â’r mater hefyd.

“Dydy’r plant ddim fod i gael eu ffonau arnyn nhw yn yr ysgol, ond maen nhw’n dal i’w defnyddio,” meddai’r fam.

“Mae athrawon yn dechrau delio â hynny.

“Gall yr heddlu gymryd rhan os yw’n ddifrifol iawn.

“Mae’n codi cywilydd ar y plant i ddweud wrth eu rhieni.”