Mae bron i 150 o drigolion ardal Y Fron wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu cais cynllunio gan glwb cartref modur i sefydlu pum lleoliad arhosfan yn y pentref.
Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno i Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, a Dyfrig Siencyn, arweinydd Plaid Cymru Gwynedd.
Mae’r ddau wedi rhoi eu cefnogaeth lawn i’r gwrthwynebwyr lleol.
Yn ôl Arwyn Roberts, cynghorydd Plaid Cymru dros yr ardal, mae teimlad cryf o annhegwch ynglŷn a’r Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygiadau, sy’n caniatáu i glybiau cartref modur osgoi dilyn canllawiau a rheolau’r Ddeddf Gynllunio arferol.
“Wedi i ni wneud gwaith ymchwil, dyma ddarganfod bod y Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygiadau dros hanner canrif oed,” meddai.
“Does dim synnwyr bod unigolion yn gallu osgoi mynd drwy’r broses arferol a datblygu lleoliad i gartrefi modur yma yng nghefn gwlad Cymru.
“Byddai’n newid pryd a gwedd pentref, yr amgylchedd naturiol a seiliau cymunedol yr ardal.”
‘Angen edrych eto’
Mae Adran Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi gwrthwynebu’r cais, ac mae Hywel Williams yn bwriadu codi’r pryderon yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Mae angen edrych eto ar Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygiadau 1960,” meddai.
“Nid yw’r ddeddf wedi ei adolygu ers dros 60 mlynedd hyd y gwn i, sefyllfa rhyfedd a dweud y lleiaf.
“Byddaf yn gosod cwestiynnau senedddol i ganfod agwedd Llywodraeth San Steffan.
“Rwyf hefyd yn bwriadu ymchwilio i’r raddfa o ddatganoli’r grym i’n Senedd ni, ble byddai rhywun yn gobeithio gweld diddordeb byw mewn pwnc sy’n bwysig yn gymunedol ac yn economaidd.”