Un peth yw wynebu cyhuddiad o fwlio – ond peth arall yw arwain corff lle mae angen “dadwenwyno diwylliant o aflonyddu, bwlio a gwreig-gasineb”.

A pheth anhygoel yw clywed arweinydd y corff yn derbyn pob un o 82 argymhelliad mewn adroddiad ar ddiwylliant ei sefydliad. Sef cyfaddefiad fod diwylliant y corff cynddrwg fel bod wir angen gwireddu pob un o’r nifer aruthrol o argymhellion.