Mae Huw yn cerdded i’r gwaith bob dydd, waeth pa mor filain ydy’r tywydd. Roedd o’n arfer hoffi cerdded heibio’r tai crand a’r tai teras main a’r siopau bychain prysur, ei ben yn llawn o’r gerddoriaeth yn ei glustffonau. Ond dydy Huw prin yn gweld y strydoedd mae’n eu cerdded mwyach.