Mae canol Llundain ar y foment yn syrcas. Fflagie Prydain ym mhob gorsaf, cartŵns eitha afiach o Charles ac o fewn y 24 awr diwethaf, mae heddlu’r MET wedi postio’r bygythiad na fydd unrhyw ymddygiad afreolus yn cael ei oddef. Wythnosau fel hyn rwy’n colli byw yng Nghymru ac yn casáu addoli gwirion y cyhoedd o’r Teulu Brenhinol.