Roedd Dafydd Glyn Jones yn hapus iawn i gyfadde’i fod wedi gwylio’r coroni…

Do cofiwch, mi edrychais, bob yn ail â pheidio, ar y rhan fwyaf o’r sioe. Digri? Oedd, dynwarediad y Brenin o Harry Enfield yn dda iawn. Gwirion? Fel rydw i wedi dweud o’r blaen, peth i bobl wirion ydyw, ac yn hynny, yn rhannol, mae ei werth… Nid yw’r frenhiniaeth a’r hyn sydd ynglŷn â hi yn fygythiad nac yn broblem o unrhyw fath i ni’r Cymry. Beth am gofio geiriau J.R. Jones? ‘O fewn i’r Cymry y mae eu gelyn.” (glynadda.wordpress.com)

Ond, yn yr Alban, roedd Mike Small yn poeni…

“Mae’r syniad fod Charles wedi ei benodi gan Dduw – sef ystyr yr eneinio – yn gosod brenin Prydain yn hollol ar wahân, nid yn unig i bobol gwledydd Prydain ond hefyd pob pennaeth coronog yn Ewrop. Mae’n fath o ddeliriwm… Yr un yw sail honiadau Brexit a honiadau rhyfedd Gwlad-Sanctaidd y Coroni; rydyn ni yn sylfaenol wahanol a gwell…” (bellacaledonia.org.uk)

O ran y canlyniadau, roedd John Dixon yn amau’r honiadau am gyfraniad y digwyddiad i goffrau’r gwledydd…

“Mae yna awgrymiadau gwyllt wedi bod… gyda’r palas yn ailadrodd honiad y gallai’r budd fod yn gymaint â £1.25 biliwn… Mae’n sicr yn wir fod llawer o ymwelwyr yn hoff o ymweld â safleoedd a phalasau brenhinol – mater arall yw a fyddai’r nifer yn codi neu ostwng pe bai’r preswylwyr yn cael eu symud oddi yno a’r adeiladau cyfan yn agored i’r cyhoedd. Gallai hanes brenhinol heb deulu brenhinol fod yn fusnes llewyrchus iawn.” (borthlas.blogspot.com)

Gwyddeles yn sgrifennu yn yr Alban a dynnodd sylw at un o’r sgil-effeithiau – grymoedd newydd yr heddlu…

“Aeth gweithredoedd Heddlu Llundain yn sathru ar brotestwyr posib y tu hwnt i fod yn llawdrwm. Roedd arestio protestwyr heddychlon heb roi rheswm cyfreithiol yn oeri’r gwaed, ac arestio pobol oedd â larymau treisio yn gosod cynsail arswydus, yn enwedig o gofio hanes dychrynllyd y Met o gasineb at fenywod. Ond yn hinsawdd asgell dde Lloegr, go brin y bydd neb yn poeni, ond y chwith ymylol.” (Claire McNab ar bellacaledonia.org.uk)

I Blaid Cymru, o leia’, roedd y coroni’n help, wrth i’r adroddiad llym ei gyhoeddi am gamymddwyn o fewn y Blaid,  a’i methiant hithau i’w atal…

“Bydd cenedlaetholwyr yn diolch i’r Brenin Charles: bydd y sylw mewn lle arall y penwythnos hwn. Aelodau’r Blaid yn y Senedd yw’r unig rai a all wir symud y bennod yma yn ei blaen, ond maen nhw wedi bod yn amharod i weithredu. Maen nhw’n gwybod nad oes olynydd amlwg a bod cael gwared ar [Adam] Price yn golygu risg; beth petai’n parhau i ymladd her i’w arweinyddiaeth, er enghraifft. Go brin y byddai mor eofn neu wirion i wneud hynny. I lawer, mae’n bosib iawn mai’r adroddiad damniol yma yw ei diwedd hi  ynghanol casgliad o broblemau – gan gynnwys saga Jonathan Edwards, siomedigaethau etholiadol a diffyg cyfeiriad strategol clir.” (Theo Davies-Lewis ar nation.cymru)