Pan wnaeth Boris Johnson benodi ei Gyfarwyddwr Cyfathrebu newydd, Guto Harri, fe benliniodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gan ddyfynnu geiriau’r gân ‘I Will Survive’ gan Gloria Gaynor.
Daw hyn wrth i Boris Johnson wneud newidiadau i’w dîm yn Downing Street er mwyn tawelu pryderon am ei allu i barhau’n Brif Weinidog yn dilyn cyfres o sgandalau am bartïon anghyfreithlon yn Rhif 10 yn ystod y cyfnodau clo.
Gwnaeth Guto Harri gymryd y ben-glin, symbol o gefnogaeth i’r ymgyrch Black Lives Matter, wrth ddarlledu’n fyw ar sianel newyddion GB News pan oedd yn ohebydd am gyfnod byr i’r sianel.
“Es i mewn i weld y Prif Weinidog am bump o’r gloch dydd Gwener ar ôl bod yn ffilmio Y Byd yn Ei Le yn y Barri, ac es i mewn trwy’r Swyddfa’r Cabinet yn Whitehall er mwyn osgoi cael fy ngweld yn y stryd a mynd trwy’r coridorau cyfyng yn Downing Street i gyrraedd ei swyddfa fe,” meddai Guto Harri wrth golwg360.
“Er bo fi heb ei weld yn y cnawd ers blynyddoedd, fe bigon ni lan ble oedden ni wedi gadael pethau o ran tôn ein cyfeillgarwch ni.”
‘I will survive’
Mewn cyfweliad arbennig â golwg360, mae’r Cymro Cymraeg, a fydd bellach yn atebol i Boris Johnson, yn sôn am ei brofiad o dderbyn un o’r swyddi pennaf yn Downing Street.
“Cerddais i mewn ac fe wnes i saliwt a dweud ‘Prime Minister, Guto Harri reporting for duty’ ac fe safodd e lan o du nôl i’w ddesg a dechrau cymryd y saliwt ond yna fe ddywedodd ‘What am I doing, I should take the knee for you.’
“Ac roedd y ddau ohonon ni’n chwerthin. Wedyn fe ofynnais i ‘Are you going to survive Boris?’ Ac fe ddywedodd e yn ei lais dwfn, yn araf a phwrpasol gan ddechrau canu ryw ychydig wrth orffen y frawddeg a dweud ‘I Will Survive’.
“Mewn ffordd anochel oedd yn fy ngwahodd i ddweud ‘You’ve got all your life to live’ ac fe atebodd e, ‘I’ve got all my love to give’, felly fe gawsom ni blast fach o Gloria Gaynor!
“Does neb yn disgwyl hynna, ond fel yna oedd hi.
“Roedd yna lot o chwerthin ac fe eisteddon ni lawr i gael sgwrs o ddifrif o ran sut mae cael y Llywodraeth nôl on track a sut ydyn ni’n symud ymlaen,” meddai.
“Mae sylw pawb ar ddigwyddiadau diweddar sydd wedi creu lot o loes, ond yn y pen draw, dydy hynny’n ddim byd i wneud â’r ffordd wnaeth y bobol bleidleisio ddwy flynedd yn ôl.
“Dydy e ddim yn glown i gyd, ond mae’n gymeriad sy’n hoffus iawn.
“Roedd 90% o’n trafodaeth yn ddifrifol iawn ond mae’n dangos ei fod yn gymeriad a bod yna hwyl i’w gael. Dyw e ddim yn ddyn dieflig fel mae rhai yn ei gamliwio.”
‘Canolbwyntio ar ddelifro’
Fe wnaeth Boris Johnson benodi Stephen Barclay, un o weinidogion y Swyddfa Gabinet, yn Bennaeth Staff, fel rhan o’r ymdrechion i geisio newid y diwylliant yn Downing Street.
Bydd Guto Harri nawr yn camu i rôl Jack Doyle, a gamodd o’r neilltu yr wythnos ddiwethaf yn dilyn cyfres o ymddiswyddiadau o dîm Boris Johnson.
Treuliodd Boris Johnson y penwythnos yn Chequers, ail gartref swyddogol Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn ffonio rhai Aelodau Seneddol i geisio eu darbwyllo ynghylch arwyddocâd ei newidiadau yn Rhif 10.
Mae Guto Harri yn dweud bod y Prif Weinidog yn mynnu ei fod yn ymwybodol o’r heriau o’i flaen.
“Trwy ddod â phobol newydd i mewn, ac ad-drefnu’r gyfundrefn yn Rhif 10 a dod â phobol broffesiynol mewn sy’n bragmataidd ac yn fwy profiadol ac sydd efallai yn llai ideolegol, sut allwn ni helpu ei fod ef a’i gabinet nawr yn canolbwyntio ar ddelifro,” meddai.
“Gwneud llwyddiant o Brexit, dod â ni mas o’r pandemig a’r holl broblemau sydd wedi codi yn sgil y pandemig, gwneud yn siŵr fod Levelling up yn golygu rhywbeth ystyrlon. Mae’n sôn yn ddi-baid am y pethau hyn, wrth gwrs ei fod e.
“Mae’n ymwybodol o’r loes ofnadwy mae’r holl sôn am y partïon hyn wedi creu, ac wedi ysgwyd ymddiriedaeth y bobol yn y Llywodraeth a gwleidyddiaeth yn gyffredinol, ac mae cwestiynau am ei allu i barhau fel Prif Weinidog.
“Mae’n rhaid iddo berswadio ei blaid a phobol ar lawr gwlad ei fod e dal y dyn a gafodd fwyafrif cyfforddus mor ddiweddar â dwy flynedd yn ôl.”
Y Byd yn Ei Le
Daeth cadarnhad gan S4C nos Sadwrn na fyddai Guto Harri yn parhau i gyflwyno rhaglen Y Byd Yn Ei Le yn dilyn ei benodiad newydd, ond mae e am weld y rhaglen yn parhau.
“Yn anffodus, mae’n amlwg i fi fel rhywun sydd â’r parch i ddarlledu cyhoeddus, mae angen sicrhau fod rhaglenni materion cyfoes yn ffynnu,” meddai.
“Ond fi wedi cael cynnig swydd reit wrth galon un o wladwriaethau mawr y byd gan weithio’n uniongyrchol ac yn atebol yn uniongyrchol i’r Prif Weinidog.
“Felly rwy’n mawr obeithio y bydd S4C ac ITV yn cadw’r Byd Yn Ei Le i fynd, ni wedi llwyddo i sefydlu tîm o safon sydd ag uchelgais ac o hyfedredd arbennig iawn, ac mae yna ddigon o bobol dda allan yna all gamu i’r adwy fel bod yna ddyfodol i’r rhaglen ac i newyddiaduraeth wleidyddol fwy cyhyrog a chreadigol.
“Gobeithio fod hyn yn gyfle i roi ail wynt i’r rhaglen ochr yn ochr gydag Elen Davies sydd wedi datblygu’n aruthrol.”
Bydd y cyfweliad llawn yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.