Wythnosau’n unig ar ôl dweud wrth golwg360 fod ymddiheuriad Boris Johnson wedi tynnu “ychydig o wynt allan o hwyliau’r dicter” yn ei erbyn, a rhyw bythefnos ar ôl galw am “ychydig o bersbectif” yn dilyn y ffrae tros bartïon yn Downing Street, mae Guto Harri wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu newydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Fe ddywedodd bryd hynny fod y sefyllfa’n “parhau’n anhygoel o toxic” o fewn y Blaid Geidwadol ac ar lawr gwlad, ac mae’n dal yr un fath wrth i Boris Johnson barhau i wynebu’r posibilrwydd y bydd digon o aelodau seneddol oddi mewn i’r blaid yn dod ynghyd i gyflwyno llythyron i Bwyllgor 1922 yn datgan diffyg hyder ynddo.

“Fydd hyn ddim drosodd mewn wythnos, pythefnos na’r ochr yma i’r haf,” meddai Guto Harri wrth golwg360 lai na mis yn ôl – a nawr mae’n ei ganfod ei hun yng nghanol yr hyn a ddisgrifiodd fel “sefyllfa ddifrifol ble mae e wedi corddi a chynddeiriogi nifer fawr o bobol ar lawr gwlad ac wedi anesmwytho aelodau seneddol ei blaid ei hun yn ddirfawr”.

“Ond trwy ymddiheuro’n daer, mewn ffordd dydy gwleidyddion ddim yn gyfforddus gwneud, mae hynny wedi prynu peth amser iddo fe ei hun.

“Mae e wedi llwyddo tynnu bach o wynt o hwyliau’r dicter ar lawr gwlad yn ei erbyn ac mae e wedi creu bwlch bach ble allai siarad yn breifat gydag Aelodau ei Blaid gan adael iddyn nhw feddwl yn galed; ydyn ni wir am gael gwared ar rywun sydd â’i record etholiadol e, dros rywbeth fel hyn?”

Gyrfa Guto Harri

Wrth ddychwelyd i dîm Boris Johnson, mae Guto Harri yn ailafael yn y bartneriaeth waith a ddechreuodd pan oedd y prif weinidog yn Faer Llundain.

Mae’r newyddiadurwr yn olynu Jack Doyle, un o bump o gydweithwyr penna’r prif weinidog sydd wedi camu o’r neilltu yn dilyn yr helynt partïon yn Downing Street a chyhoeddi adroddiad Sue Gray, yr uwch was sifil.

Fe fu Guto Harri’n brif ohebydd gwleidyddol y BBC cyn dychwelyd i’r byd gwleidyddol unwaith eto yn 2018 gydag S4C.

Fe adawodd e GB News y llynedd yn dilyn ffrae, ar ôl iddo ‘gymryd y ben-glin’ ar yr awyr yn ystod dadl am hiliaeth a thîm pêl-droed Lloegr a chael ei ddiarddel am wneud hynny.

“A wedyn, y peth hollol baradocsaidd… y pitch cyhoeddus oedd bo ni yno i amddiffyn rhyddid barn i wneud yn sicr bo ni’n gallu trafod pob math o bethau a bo ni ddim yn osgoi’r ddadl ond yn cael y ddadl, dim ots pa mor sensitif neu anghyfforddus mae hi i bobol,” meddai wrth golwg360 ar y pryd.

Wrth ddisgrifio pwrpas arall y sianel, dywedodd mai’r bwriad oedd croesawu lleisiau sy’n dueddol o gael eu cau i lawr mewn llefydd eraill – a dyna, meddai, lle mae’r eironi yn y sefyllfa.

“Heb unrhyw ymwybyddiaeth o ba mor hurt oedd e, fe ddaeth y llef fawr wrth y dorf i ganslo fi a chau fi lawr, a do’n nhw ddim eisiau clywed y ddadl!”

Yn 2012, cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu News UK yn dilyn y sgandal hacio ffonau, gan ddisgrifio’r swydd fel “sioc i’r system” ond yn ymfalchïo wrth chwarae ei ran “wrth alluogi’r bobol hyn i fod yn newyddiadurwyr eto a pheidio â chael eu gweld fel hacwyr ffonau a rhai llygredig mewn bywyd cyhoeddus”.

Cydweithio â Boris Johnson

Dydy e ddim bob amser wedi cydweld â Boris Johnson, y bu’n cydweithio â fe pan oedd yn Faer Llundain, gan ddweud ei fod “wedi synnu, yn siomedig a, gellid dadlau, mewn trallod” ynghylch y ffordd y gwnaeth e arwain yr ymgyrch o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn wir, fe alwodd e’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn “weithred gatastroffig o hunan-niweidio” gan y Deyrnas Unedig, ac fe wnaeth e feirniadu Boris Johnson am achosi “difrod enfawr” i’w ddyfodol gwleidyddol ei hun yn sgil nifer o’i sylwadau.

Fe aeth mor bell hefyd â rhybuddio y byddai’n brif weinidog a fyddai’n “hollti barn” ac fe wnaeth e ei gyhuddo un tro o “balu ei fedd wleidyddol” wrth wynebu dicter Ceidwadwyr tros ei honiadau bod strategaeth Brexit y cyn-brif weinidog Theresa May wedi rhoi’r Deyrnas Unedig mewn “fest hunanladdiad”.

Fe rybuddiodd bryd hynny fod Boris Johnson “yn ein llusgo ni i le lle rydyn ni’n meddwl y gallwn ni wneud jôc am fest hunanladdiad ac y gallwn ni fod yn rhywiol chwantus”.

Yn 2018, fe ddywedodd fod Boris Johnson yn “ffigwr oedd wir yn uno [pobol] erbyn fy nghyfnod gyda fe pan ddigwyddodd y Gemau Olympaidd yn Llundain”.

“Roedd pobol ar y chwith a’r dde. Fyddai e ddim wedi cael ei ailethol mewn dinas sy’n gwyro i’r chwith fel Llundain oni bai ei fod e wedi apelio i’r chwith,” meddai.

“Nawr mae e wedi mynd y ffordd arall.

“Mae e wedi mynd yn fwy llwythol, ac yn llwythol o fewn y llwyth, fel y byddai e – pe bai e’n dod yn arweinydd – yn ffigwr a fyddai wir yn hollti barn”.

Ond fel yr eglurodd wrth golwg360 ar ôl gadael GB News, mae’n gwybod sut deimlad yw bod yn un sy’n gallu hollti barn.

“Roedd rhai, a bod yn deg, yn anghytuno â fi a rhai yn cytuno – dim lot – ond roedd rhai yn cytuno â fi a ’nghyd-gyflwynwyr i, chwarae teg, yn anghytuno efo’r gesture, ond yn cytuno’n gryf efo’n hawl i’w wneud e.”

Tybed a all Guto Harri dynnu ar ei brofiadau ei hun o hollti barn er mwyn gwyrdroi’r sefyllfa mae ei fos newydd yn canfod ei hun ynddi?

Ymateb i’w benodiad

Mae ambell Geidwadwyr blaenllaw eisoes wedi croesawu Guto Harri i’r swydd.

Darllenwch ddau gyfweliad gyda Guto Harri ar dudalennau golwg360:

Ymddiheuriad Boris Johnson wedi llwyddo i “dynnu ychydig o wynt allan o hwyliau’r dicter,” medd Guto Harri

Jacob Morris

“Mae e ’di corddi a chynddeiriogi nifer fawr o bobol ar lawr gwlad ac wedi anesmwytho Aelodau Seneddol Plaid ei hun yn ddirfawr”

Cymryd y ben-glin, gadael GB News, a rhybudd i Gymru am gulni meddwl

Alun Rhys Chivers

Guto Harri yn siarad â golwg360 ar ôl gadael y sianel deledu newydd ddadleuol