Mae pryderon ar Ddiwrnod Cenedlaethol Waitangi yn Seland Newydd nad yw arian oedd wedi’i neilltuo ar gyfer prosiectau Maori yn cyrraedd y llefydd cywir.
Eleni, mae rhan fwya’r 120m o ddoleri wedi’i neilltuo i helpu’r gymuned Maori yn ystod y pandemig, gyda chyfraddau heintio’n uwch ymhlith y gymuned honno na gweddill trigolion y wlad.
Roedd hanner yr arian i fod at ddibenion brwydro’r feirws a’r hanner arall ar gyfer hybu prosiectau diwylliannol a threftadaeth.
Ymhlith y prosiectau sydd i fod i dderbyn arian mae cwmni technoleg sy’n helpu i ganolbwyntio gwasanaethau iechyd ar anghenion y Maori, ond mae’n debyg nad yw’r arian wedi cael ei neilltuo’n gyfangwbl ac nad yw’n cyrraedd y bobol sydd angen y cymorth fwyaf ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cyffredinol.
Mae cwyno ar raddfa eang hefyd fod y broses o geisio am arian yn eithriadol o araf, ac nad yw cyfran sylweddol o’r arian yn cyrraedd y gymuned Maori, er eu bod nhw o dan anfantais o gymharu â gweddill y wlad.
Diwrnod Waitangi
Diwrnod Cenedlaethol Seland Newydd yw Diwrnod Waitangi.
Mae’n cael ei gynnal bob blwyddyn i nodi’r diwrnod yn 1840 pan gafodd Cytundeb Waitangi ei lofnodi fel bod Seland Newydd yn dod o dan reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig.
Fel eleni, os yw Diwrnod Waitangi yn cwympo ar benwythnos, mae dathliadau’n cael eu cynnal ar y dydd Llun canlynol.
Roedd Cytundeb Waitangi yn tynnu Seland Newydd i mewn i’r Ymerodraeth Brydeinig, ac yn sicrhau hawliau’r Maori i’w tir eu hunain ac yn rhoi’r un hawliau iddyn nhw â dinasyddion Prydain.
Cafodd y cytundeb ei lofnodi yn nhref Waitangi gan griw o benaethiaid y Maori a Llywodraeth Prydain, a hynny ar ôl rhai diwrnodau o drafod a dadlau, ac fe gafodd ei ymestyn wedyn fel bod 500 yn rhagor o benaethiaid ym mhob cwr o Seland Newydd yn ei lofnodi hefyd.
Mae’r fersiynau Saesneg a Maori ychydig yn wahanol i’w gilydd, sydd wedi arwain at ffraeo cyson ynghylch hawliau’r Maori.
Cafodd Diwrnod Cenedlaethol Waitangi ei gynnal am y tro cyntaf yn 1934, ac roedd cynnig gerbron i’w wneud yn ddiwrnod o wyliau.
Ond pan ddaeth Plaid Lafur y wlad i rym, roedden nhw’n gyndyn o barhau â’r cynllun ac er nad yw’n ddiwrnod o wyliau drwyddi draw, mae modd i ranbarthau ddewis y diwrnod hwn fel diwrnod o wyliau yn lle diwrnod arall – yn ddigon tebyg i’r drefn ar Ddydd Gŵyl Dewi yng Nghymru.
Yn 1973, cafodd deddfwriaeth ei phasio i gydnabod y diwrnod a’r gymuned Maori ond fe ddaeth yn Ddiwrnod Cenedlaethol Seland Newydd hefyd er mwyn tynnu’r wlad gyfan i mewn i’r dathliadau, gan danseilio pwrpas dathlu’r gymuned leiafrifol.