Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi lansio arolwg lles er mwyn clywed am brofiadau pobol o gael cyfarfodydd gyda’u Cyngor Sir lleol trwy gyfrwng y Gymraeg am faterion sy’n ymwneud â’u lles nhw eu hunain neu rywun maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.

Trwy gynnal yr arolwg lles, mae’r Comisiynydd yn arbennig o awyddus clywed am brofiadau plant a phobol ifanc a phobol hŷn ynghylch cyfarfodydd am addysg, gofal neu wasanaethau cymdeithasol.

Mae’n ofynnol i gynghorau sir ofyn i bobol a ydyn nhw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg wrth gael gwahoddiad i gyfarfod i drafod materion lles.

Os yw rhywun am gael cyfarfod yn Gymraeg, yna mae’n rhaid cynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg, a gall hynny ddigwydd trwy gyfrwng cyfieithydd ar y pryd.

‘Sefydlu dealltwriaeth lawn o’r sefyllfa’

“Rwyf eisiau clywed profiadau pobl ar draws Cymru o geisio defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd gyda’u cyngor sir lleol, a beth yw effaith hynny ar eu gallu i fynegi eu hunain yn Gymraeg,” meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, wrth lansio’r arolwg.

“Hoffwn glywed am unrhyw rwystrau, os o gwbl, sy’n wynebu pobl wrth geisio siarad Cymraeg yn y cyfarfod, a beth yw effaith hynny ar ganlyniad y cyfarfod a’u lles nhw.

“Fy mwriad yw sefydlu dealltwriaeth lawn o’r sefyllfa, a defnyddio’r wybodaeth er mwyn gwella profiadau siaradwyr Cymraeg wrth gael cyfarfodydd gyda’u cynghorau sir lleol yn y dyfodol, ac er mwyn sicrhau nad yw unigolion yn cael eu rhoi dan anfantais wrth geisio defnyddio’r Gymraeg wrth drafod eu lles.”

Gall unigolion ymateb i’r arolwg ar wefan y Comisiynydd erbyn 18 Chwefror 2022 – https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/sefydliadau-cyhoeddus/arolwg-lles