Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi’r lleoliadau ar gyfer plannu coedlannau coffa cyntaf Cymru i gofio’r rhai a fu farw yn ystod y pandemig.

Bydd y ddwy goedlan gyntaf yn cael eu creu yn Wrecsam ar ran o Ystâd Erddig, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, ac ar safle gafodd ei ddewis gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn Brownhill yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin.

Bydd trydedd goedlan goffa yn cael ei chreu yn y de-ddwyrain – mae safle’n cael ei ddewis ar hyn o bryd.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y coedlannau coffa yn symbol o gadernid Cymru yn ystod y pandemig ac yn symbol o adfywio ac adnewyddu wrth i’r coedlannau newydd dyfu.

Y gobaith yw y byddan nhw’n fannau coffa lle gall teuluoedd a ffrindiau gofio am anwyliaid a gollwyd.

Byddan nhw hefyd yn fannau lle bydd y cyhoedd yn gallu myfyrio am y pandemig ac am yr effaith y mae wedi’i chael ar fywydau pawb, meddai Llywodraeth Cymru.

‘Cofeb barhaol’

Dywedodd Mark Drakeford: “Mae bron yn ddwy flynedd ers i bandemig y coronafeirws daro Cymru.

“Mae gormod o bobl wedi cael eu cipio’n rhy fuan gan y firws ofnadwy ’ma. Byddwn ni’n cofio pob un ohonyn nhw ac yn eu cadw yn ein calonnau a’n meddyliau.

“Bydd y coedlannau hyn yn gofeb barhaol a byw i bawb sydd wedi marw. Byddan nhw hefyd yn symbol o gryfder pobl Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Bydd amrywiaeth o rywogaethau coed yn cael eu plannu yn y coedlannau, er mwyn iddyn nhw fedru ymdopi ag amgylchedd sy’n newid. Mae disgwyl i’r plannu ddechrau eleni.

Gweithio gyda theuluoedd a chymunedau

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn gweithio gyda chymunedau a theuluoedd lleol i gynllunio a dylunio’r coedlannau.

Yn ôl Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae’n coedwigoedd a’n coetiroedd yn symbolau pwerus a dwys o fywyd, sy’n helpu i wella’n hamgylchedd a bioamrywiaeth ac sy’n cynnig lle i bobl hamddena a myfyrio.

“Ein huchelgais ar gyfer y goedlan goffa hon yw ei bod yn datblygu’n ardal fyw, a fydd yn tyfu, ac a fydd yn fan y gall y gymuned gyfan ei mwynhau. Bydd hefyd yn lle tawel i bobl gael myfyrio wrth inni barhau i ymdopi â’r cyfnod hynod heriol ’ma.

“Rhan o’r daith fydd ymgysylltu â chymunedau lleol a’n partneriaid i gynllunio a dylunio’r goedlan, gan fynd ati ar y cyd â nhw i lunio mannau diogel a hygyrch y bydd pobl o bob oed yn gallu ymweld â nhw am flynyddoedd i ddod er mwyn cofio a myfyrio.”

Coed ‘yn gysur’ yn y pandemig

Mae disgwyl i’r safleoedd ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru yn y dyfodol, a bydd cyfleoedd i gymunedau lleol helpu i lywio’r gwaith o reoli’r coedlannau.

Dywedodd Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru:

“Ers dros 125 o flynyddoedd, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi darparu mannau lle gall pobl fwynhau natur, harddwch ac awyr iach. Mae hynny wedi teimlo mor berthnasol dros y ddwy flynedd ddiwethaf ag ar unrhyw adeg yn ein hanes: rydyn ni’n gwybod bod natur wedi bod yn gysur mawr i lawer yn ystod y pandemig, gan ddod â phleser a chysur wrth i bob agwedd arall ar ein bywydau newid.”

Ychwanegodd bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn falch o gefnogi Llywodraeth Cymru drwy greu un o goedlannau coffa Cymru yn Erddig.

“Rydyn ni’n edrych ’mlaen at gydweithio â chymunedau a phartneriaid i greu lle arbennig er cof am y rhai a gollwyd oherwydd y coronafeirws. Bydd y goedlan nid yn unig yn fan lle gall pobl gofio a myfyrio, ond bydd hefyd yn fan gwyrdd lle bydd pawb yn gallu parhau i fwynhau’r cyswllt buddiol, sydd gymaint ei angen, â’r byd naturiol.”