Mae’n 300 mlynedd union heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 5) ers saethu Barti Ddu.

Roedd Barti Ddu, neu Bartholomew Roberts a rhoi ei enw go iawn iddo, yn fôr-leidr yn y Caribî a Gorllewin Affrica rhwng o 1719 hyd at ei farwolaeth dair blynedd yn ddiweddarach.

Mae’n cael ei ystyried fel y môr-leidr mwyaf llwyddiannus erioed, gan gipio 470 o longau yn ystod ei fywyd.

Cafodd ei eni’n John Roberts yng Nghasnewydd-bach yn Sir Benfro, ac mae lle i gredu ei fod e wedi newid ei enw ar ôl cael ei ysbrydoli gan y môr-leidr Bartholomew Sharp yn y Caribî a gafodd ei garcharu am ei weithredoedd yn India’r Gorllewin Danaidd.

Yn ôl yr hanes, roedd Barti Ddu yn aelod o griw’r llong gaethwasaeth Princess yr oedd y Cymro Hywel Davies wedi ymosod arni yng Ngorllewin Affrica yn 1719.

Pan fu farw Hywel Davies, cafodd Barti Ddu ei enwi’n gapten.

Cafodd Barti Ddu ei anafu mewn brwydr yn Gabon, ar ôl cael ei saethu a chafodd ei gorff ei daflu i’r môr a bu farw nifer o’i griw ar ôl colli eu harweinydd.

Gwaddol

Yn ôl rhai, Barti Ddu oedd capten y llong gyntaf i gyhwfan baner y Penglog ac Esgyrn sy’n rhan mor bwysig o chwedloniaeth llongau môr-ladron erbyn heddiw.

Cafodd yr awdur Cymraeg poblogaidd T. Llew Jones ei ysbrydoli gan hanes y môr-leidr i lunio’i nofel Barti Ddu o Gasnewy’ Bach.

Cafodd ei chyhoeddi gan Wasg Gomer yn 1973, ac mae nifer o adargraffiadau wedi bod ers hynny, yn ogystal ag argraffiad clawr meddal newydd sbon yn 2004.

Pysgotwr yn Nhrefdraeth yw Barti Ddu ar ddechrau’r nofel, ond ar ôl iddo gael ei gipio gan y ‘Press Gang’ ar ddiwrnod ei briodas, mae’n cael ei dywys ar antur i’r môr.

Ar ôl i’w gwch suddo, mae’n cael ei orfodi i ddewis – boddi neu ymuno â’r môr-ladron.

 

 

Yn ogystal ag ysbrydoli caneuon, mae rỳm yn cael ei gynhyrchu yn Sir Benfro gan ddefnyddio gwymon: