Mae colofn am yr iaith Gymraeg yn y cylchgrawn The Critic yn galw am “dacsi i iaith farwaidd”.

Cafodd y cylchgrawn gwleidyddol a diwylliannol ei sefydlu ym mis Tachwedd 2019, ac mae’n cyfrif David Starkey, Peter Hitchens a Toby Young ymhlith ei gyfranwyr.

Mae’n disgrifio’i hun fel “cylchgrawn misol Prydeinig ar gyfer gwleidyddiaeth, syniadau, celf, llenyddiaeth a llawer mwy” dan olygyddiaeth Christopher Montgomery.

Ei nod, meddai, “yw gwthio’n ôl yn erbyn consensws hunanystyriol a pheryglus sy’n caael lleisiau beirniadol yn drwblus, yn symbulus, yn ansensitif ac yn amharchus”.

“Nid pryfocio na throlio yw’r diben.

“Pwrpas beirniadaeth onest yw mynd yn well at y gwirionedd, nid gwadu ei bosibilrwydd”.

Kingsley Amis

Mae’r golofn gan Jonathan Meades yn dechrau drwy ddyfynnu Kingsley Amis, y nofelydd a fu unwaith yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, wrth iddo ddweud bod “arwydd a arferai ddweud Taxi bellach yn dweud Taxi/Tacsi er lles pobol Gymreig nad oedden nhw erioed wedi gweld y llythyren X o’r blaen”.

Mae awdur yr erthygl yn awgrymu bod yr “awdurdod gorfrwdfrydig a gododd yr arwydd ond yn ymffrostio ynghylch rhyfeddod gwerthfawr Cymru, ei harbenigrwydd, nad Lloegr mohoni”, ac yn cymharu hynny gydag “awdurdodi Cymraeg 2050 ar bawb” y mae’n ei alw’n “brosiect totalitaraidd Llywodraeth Cymru”.

Mae’n cwestiynu beth yn union yw “gallu siarad” iaith ac yn cyfeirio at amharodrwydd R.S. Thomas i ddysgu Cymraeg a’i ddisgrifiad o’r Cymry fel “pobol analluog sy’n sâl yn sgil mewnfridio”.

Mae’r newyddiadurwr yn mynd yn ei flaen i ddweud bod y “salwch” hwnnw’n parhau wrth i 60 yn rhagor o feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg gael eu hagor erbyn 2026, gan ofyn “Pam?”.

“Pam dysgu iaith farw y mae ei goroesiad yn ddibynnol ar “fentrau”?” meddai wedyn.

“Mae polisi’n mynnu bod angen y siaradwyr hyn. Eu hangen i beth? Er lles Cymreictod efallai, i roi coesau newydd i’r ffug draddodiad barddol?”

Mae’n mynd yn ei flaen wedyn i gwestiynu doethineb sicrhau cydraddoldeb i’r Gymraeg a Saesneg o gymharu nifer eu siaradwyr, ac yn disgrifio’r Gymraeg fel “iaith hobi sydd mor ddiniwed â phaentiwr dydd Sul”.

Mae pobol Eryri a’r canolbarth yn ei chael hi ganddo hefyd, wrth iddo gyfeirio at y Gymraeg “mewn pocedi” fel “arf nid yn unig i gyfathrebu” ond hefyd “fel rhan o hunaniaeth ac arwahanrwydd, ac felly hunan-niweidio a lleihad”.

Lleiafrifoedd ethnig a ‘lebensborn’

Mae cywair yr erthygl yn mynd i dir llawer iawn mwy peryglus wedyn, wrth gwestiynu pam fod Llywodraeth Cymru’n gorfodi’r Gymraeg ar leiafrifoedd ethnig.

“Dychmygwch dynged plentyn wedi’i fagu gan rieni uniaith Gymraeg a oedd, fwy na thebyg, yn Saeson ac yn meddu ar frwdfrydedd sinistr y cadwedig – yn fwy Cymraeg na’r Cymry.

“Mae’r plentyn wedi’i gondemnio gan wasgod gaeth i oes yng Nghaernarfon neu Flaenau Ffestiniog,” meddai wedyn, gan gyfeirio at hanesyn am berchennog siop yn esgus peidio deall Saesneg, gan gymharu’r stori honno â stori arall yng Ngwlad Belg ac yn dweud bod y fath agwedd “yn creu rhaniadau, yn hybu llwythgarwch ac yn bwydo lledrithion”.

Mae’n cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod ag “awdurdodaeth ieithyddol” ac o “gynllunio cymdeithasol”, ond hefyd o weithredu cynllun ‘lebensborn’, sef polisi’r Natsïaid o dalu menywod i gael plant pur, “fel bod modd eu magu’n Gymraeg”.

Ond mae’n dweud mai’r “syniad mwyaf twp o’r holl syniadau twp yw y dylid annog lleiafrifoedd ethnig i ddysgu Cymraeg – a rhoi’r faich o rwystrau dwbl arnyn nhw”.

Mae’n cyhuddo Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil Llywodraeth Cymru o fod yn “barodi” o ddogfen drwsgwl, ar sail “ffuglen nad yw’n argyhoeddi bod y Cymry’n ddallbleidwyr treisgar sy’n mwynhau dim byd yn fwy na gwawdio’r rhai nad ydyn nhw’n edrych yn debyg iddyn nhw”, ac yn dweud mai “gwaith gwleidyddion rhwysgfawr, gweision sifil ufudd, ymgyrchwyr croendenau a phuteiniaid tros achos sy’n arbenigo mewn cael eu sarhau” yw’r polisi.

Mae’n dweud bod hynny oll oherwydd “argyhoeddiad y gall y natur ddynol gael ei newid gan y bwriad da o greu ‘cenedl lle nad oes goddefgarwch o gwbl o hiliaeth o bob math”.

Cymry glân gloyw?

Mae’n cwestiynu pa mor effeithiol fyddai “addysg mewn cydraddoldeb” a pha mor debygol yw hi y bydd rhywun sy’n gwisgo’r hijab yn ymddwyn fel rhywun “sydd wedi cefnu ar y dilledyn”.

Wrth gyfeirio wedyn at gefndiroedd amrywiol y Cymry, sydd â chyndeidiau Eidalaidd fel y teulu Conti yn Llanbed, mae’n dweud eu bod nhw wedi’u “cymhathu” – “nid bod hynny’n golygu eu bod nhw’n anghofio o ble ddaethon nhw ganrif yn ôl”, gan gyfeirio wedyn at y Cymry yn Maida Vale.

“Ond dydy’r cyfryw bobol ddim yn glynu wrth orffennol eu teuluoedd, dydyn nhw ddim wedi’u caethiwo gan gymunedoliaeth,” meddai.

“Gyda phob cenhedlaeth, maen nhw’n newid ac yn addasu ac yn edrych ymlaen.

“Does ganddyn nhw ddim ofn y fwngreliaeth sy’n hwb i’r ddynoliaeth.

“Priodwch allan!”