Bydd gŵr o orllewin Cymru yn gwthio’i hun i’r eithaf y penwythnos hwn, wrth iddo gymryd rhan mewn triathlon 24 awr.

Heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 5), mae Russell Williams o Geredigion yn gobeithio cwblhau tair awr yn y pwll nofio, 12 awr ar y beic, a naw awr ar droed, er mwyn codi arian ar gyfer tair achos sy’n agos at ei galon.

Mae’n bur debyg y bydd hynny’n ei weld yn teithio cannoedd o filltiroedd ar y diwrnod pe bai popeth yn mynd fel mae’n ei ragweld.

Gyda phrofiad o sawl her eithafol, gan gynnwys Ironman yn ystod y cyfnod clo yn 2020, dywed mai beth sy’n ei sbarduno yw “bod yna bobol sy’n methu â gwneud heriau o’r fath”.

Yr her

“Bydda i wedi fy lleoli ym mhwll nofio Aberteifi am y 24 awr lawn,” meddai Russell Williams wrth golwg360.

“Bydda i’n nofio tair awr yn y pwll, sydd o gwmpas naw i ddeg cilomedr.

“Wedyn bydda i’n mynd allan, newid a chael bwyd ac yn y blaen, a’n neidio ar y beic.

“Bydda i’n seiclo o’r pwll nofio yn Aberteifi i Landysul ac yn ôl oddeutu chwe gwaith – sydd tua 180 i 200 milltir. Ar ddiwedd bob lap, bydda i’n dychwelyd i’r pwll i gael seibiant a bwyd ac ati.

“Yna, bydda i’n dechrau’r daith redeg, sydd am fod yn naw awr o hyd, gan wneud cylchoedd o gwmpas yr ardal leol.

“Mae’n swnio’n eithaf gwallgof pan rydych chi’n ei ddweud e!”

Digon o brofiad

Mae’r gŵr o ardal Aberteifi wedi cymryd rhan mewn toreth o ddigwyddiadau dygnwch, gan gynnwys marathons, triathlons a heriau Ironman.

“Yn y cyfnod clo cyntaf, fe wnes i Ironman yn fy ystafell haul, felly seiclo 112 o filltiroedd ar fy meic statig a rhedeg marathon ar y felin draed,” meddai.

“Yn ystod y cyfnod hwnnw, doedden ni ddim yn gwybod sut oedd y byd am fod ac os oedd unrhyw un am allu codi arian byth eto, felly roedd pobol yn gwneud lot o stwff gwallgof yn eu hamser sbâr ac fe wnes i ymuno â hynny!”

Russell ar y beic

‘Byth yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd yfory’

Bydd Russell yn codi arian at dri achos y penwythnos hwn, ac yn eu plith mae ymgyrch Nathan Ford, triathletwr profiadol a gafodd ddamwain ddifrifol tra’n cystadlu y llynedd.

“Roedd Nathan Ford yn driathletwr llwyddiannus iawn o Abertawe, a fyddai mwy na thebyg wedi gallu troi’n broffesiynol petai wedi mynd amdani,” meddai.

“Roedd llawer o bobol yn gwybod amdano yn lleol.

“Ond fe gafodd o ddamwain anffodus ar y beic yn ystod triathlon yn yr Alban ym mis Awst llynedd, ac fe gafodd o’i barlysu o’i wddf i lawr.

“Fe ddeffrodd o’r bore hwnnw yn disgwyl ennill y triathlon a dod adre, ond fe ddeffrodd y bore wedyn a doedd o ddim yn gallu gwneud hynny byth eto.

“Dyna yw fy ysbrydoliaeth i – y ffaith bod yna bobol sy’n methu â gwneud hyn.

“Dydyn ni byth yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd yfory.”

Achosion da

Yr achosion eraill yw Pwll Nofio Aberteifi, sy’n cael ei redeg gan y gymuned, ac elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

“Mae’r pwll ei hun yn un elusennol, felly does ganddo ddim cyllid gan y cyngor,” meddai.

“Yn fan’no dw i’n hyfforddi, ac mae’n bwysig i’w gadw ar agor am sawl rheswm.

“Un o’r rheiny yw fyddai dim darpariaeth gwersi nofio i blant yn yr ardal pe bai’r pwll yn cau. A hefyd maen nhw yn fy nghynnal i am y 24 awr.

“Mae’r Ambiwlans Awyr yna am resymau amlwg. Maen nhw’n elusen hollbwysig i bawb.”

Dywed ei fod wedi codi dros £500 hyd yn hyn, ac mae’n disgwyl y bydd y rhoddion wedi llifo i mewn erbyn y penwythnos ac yn ystod y digwyddiad.

Mae’n dweud bod croeso i “unrhyw un ymuno ar unrhyw amser,” ac mae’n annog pobol i rannu lluniau a fideos o’r digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at yr achos.

Gall unrhyw un gyfrannu arian at y triathlon a’r achosion da ar y dudalen JustGiving.