Mae Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, yn dweud bod “rhagor o waith i’w wneud” wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod yng Nghymru.
Daw hyn wrth i adroddiad ‘Cyflwr y Genedl 2022’ y mudiad Chwarae Teg ddangos bod y bwlch cyflogau wedi tyfu i 12.3% eleni, tra bod dim ond 29% o holl gynghorwyr Cymru’n fenywod, a dim ond 28% o fenywod sy’n teimlo’n ddiogel yn cerdded ar eu pennau eu hunain yn y tywyllwch.
Mae Chwarae Teg yn galw am ymdrech o’r newydd gan Lywodraeth Cymru, busnesau a’r gymdeithas sifil i fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi’r anghydraddoldeb.
Cyflwr y Genedl
Yn ôl yr adroddiad, mae mwy o fenywod 16-24 oed bellach mewn gwaith o gymharu â dynion, ond mae diweithdra ar gynnydd yn gyffredinol ymhlith menywod.
Mae hyn yn arbennig o wir am fenywod o leiafrifoedd ethnig, gyda 6.7% ohonyn nhw’n ddiwaith, sy’n gynnydd o 2.4% ers y llynedd – o gymharu â 3.8% ymhlith menywod gwyn, a chynnydd o ddim ond 0.4%.
Er bod menyw o liw wedi’i hethol i’r Senedd fis Mai y llynedd, mae nifer y menywod mewn gwleidyddiaeth o bob lefel yng Nghymru’n dal yn gymharol isel ar drothwy etholiadau’r cynghorau ym mis Mai.
Mae 73% o’r rheiny sy’n dioddef trais yn y cartref yn fenywod, ac mae 53% o’r holl droseddau yn erbyn menywod yn ymwneud â thrais yn y cartref.
Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod rhaid canolbwyntio ar y menywod sy’n wynebu’r rhwystrau a’r anfanteision mwyaf o edrych ar yr holl nodweddion sy’n cael eu gwarchod – rhyw, hil, rhywioldeb, anabledd, dosbarth cymdeithasol, oedran a ffydd.
‘Cyflymder y newid lawer yn rhy araf’
“Ers sefydlu Chwarae Teg 30 mlynedd yn ôl, gwnaed llawer o gynnydd tuag at wneud Cymru’n wlad gyfartal o ran rhywedd, ond fel y dengys ein pedwerydd adroddiad Cyflwr y Genedl, mae cyflymder y newid lawer yn rhy araf,” meddai Cerys Furlong, prif weithredwr Chwarae Teg.
“Yn erbyn gormod o ddangosyddion cydraddoldeb allweddol, ychydig iawn o gynnydd sydd, neu ddim o gwbl.
“Er bod angen gweithredu mewn nifer o feysydd rydym yn gwybod bod dau fater yn dal i fod yn gwbl hanfodol os ydym am sicrhau Cymru gyfartal o ran rhywedd – gofal plant a gwaith di-dâl; ac aflonyddu rhywiol, cam-drin a thrais.
“Mae’r orddibyniaeth barhaus ar fenywod i ddarparu gofal a gwaith di-dâl mewn cymdeithas yn atal menywod rhag cymryd rhan yn yr economi ffurfiol â thal, gan gynnal anghydraddoldebau economaidd allweddol rhwng menywod a dynion.
“Mae diffyg gofal plant fforddiadwy yn gwaethygu’r mater yma ymhellach.
“Mae menywod hefyd yn dal i fod mewn llawer mwy o berygl o ddioddef o’u cam-drin, aflonyddu arnynt a thrais, rhywbeth a ddaeth i’r amlwg yn sydyn ac yn drasig yn 2020 gyda llofruddiaethau Wenjing Lin, Sarah Everard a Sabina Messa, ac yn fwy diweddar marwolaeth Ashling Murphy.
“Mae’r achosion proffil uchel hyn yn tynnu sylw at y casineb at ferched a’r trais endemig ac annerbyniol y mae menywod yn dal i’w hwynebu. Mater sy’n effeithio ar bob agwedd ar fywydau menywod.
“Ni fydd unrhyw un actor yn gallu myndd i’r afael â’r materion hyn, mae angen i bawb ailganolbwyntio’u hymdrechion er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
“Dylai’r Llywodraeth ystyried sut a ble y mae’n buddsoddi arian a sut y gall polisi cyhoeddus ysgogi newid sy’n gweithio’n fwy effeithiol i fenywod.
“Dylai busnesau feddwl am sut i drefnu gwaith yn well er mwyn cefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu a beth sydd ei angen er mwyn dileu aflonyddu yn y gweithle.
“Ac mae angen i gymdeithas sifil gydweithio i gefnogi grwpiau ymylol ac ymgyrchu dros newid.
“Mewn Cymru sy’n dweud y pethau iawn i gyd am gydraddoldeb rhywedd a’r cynnydd yr ydym am ei weld, mae’r diffyg cynnydd a amlygwyd yn ein hadroddiad Cyflwr y Genedl yn siomedig iawn.
“Mae’n amlwg bod angen i ni wneud pethau’n wahanol, yn gyflymach a chyda mwy o ymrwymiad.
“Dyna pam y mae angen i’r llywodraeth, busnes a chymdeithas sifil weithredu nawr i sicrhau bod pob menyw yn cyflawni ac yn ffynnu yng Nghymru.”
‘Cydraddoldeb deilliannau, nid dim ond cydraddoldeb cyfleoedd’
“Rhaid bod Cymru sy’n gyfartal o ran rhyw fod yn seiliedig ar gydraddoldeb deilliannau, ac nid dim ond ar gydraddoldeb cyfleoedd, ac mae’r canlyniadau heddiw’n dangos bod yna waith i’w wneud o hyd,” meddai Sioned Williams, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau Plaid Cymru.
“Dydy hi ddim yn dderbyniol bod y bwlch cyflogau rhwng y rhywiau wedi cynydd, a than ein bod ni’n cynyddu’r cynrychiolaeth i fenywod ym mhob lefel o’r llywodraeth, fydd gan ferched ddim yr un llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw fwyaf.
“Drwy Gytundeb Cydweithredu Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru, rydym yn falch fod yna ymrwymiad bellach i ddiwygio ein Senedd ac i roi cwotâu rhyw mewn cyfraith.
“Yn y cyfamser, mae’r adroddiad heddiw’n dangos bod llawer mwy sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â’r mater diwylliannol ehangach yn ein cymdeithas o ran trais, aflonyddu a chamdriniaeth yn enwedig yn erbyn menywod a merched – sy’n sicr yn ffactor wrth i gynifer o fenywod adrodd eu bod nhw’n teimlo’n anniogel yn cerdded ar eu pennau eu hunain yn y tywyllwch.
“Dyna pam fod Plaid Cymru wedi mynd â dadl i’r Senedd yr wythnos ddiwethaf, gan alw ar Lywodraeth Cymru i roi mesurau yn eu lle i helpu i gyfyngu ar stelcian a’i atal, gan gynnwys canllawiau i sicrhau bod dyluniad mannau cyhoeddus yn rhoi ystyriaeth i ddiogelwch y rheiny sy’n fwyaf tebygol o ddod yn ddioddefwyr.
“Dydy hi ddim yn fater o ddweud wrth y rheiny sy’n teimlo’n anniogel i addasu’r ffordd maen nhw’n byw eu bywydau.
“Fe fu llawer gormod o farwolaethau a rhy ychydig o weithredu, trafod ac addysgu ynghylch hyn.”