Daeth pobol ynghyd ar risiau’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd neithiwr (nos Sul, Chwefror 6), er cof am y seiciatrydd ymgynghorol Dr Gary Jenkins.

Bu farw yn dilyn ymosodiad homoffobig arno mewn parc yn y brifddinas ar Orffennaf 20 y llynedd.

Cafodd y tad i ddau, oedd yn 54 oed, anafiadau difrifol i’w ben, ac fe fu farw yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd bythefnos yn ddiweddarach ar Awst 5.

Cafwyd tri o bobol yn euog yn Llys y Goron Merthyr Tudful o’i lofruddio.

Roedd Jason Edwards (25), Lee Strickland (36) a Dionne Timms-Williams (17) wedi cyfaddef eu rhan yn yr ymosodiad ar Dr Gary Jenkins a thyst i’r digwyddiad, gan bledio’n euog i gyhuddiadau o ddynladdiad a lladrata, ond cafwyd y tri yn euog o lofruddio.

Clywodd y llys fod y tri wedi bod yn chwilio am ddynion bregus oedd yn mynd i’r parc am ffafrau rhywiol gyda’r bwriad o ddwyn oddi arnyn nhw.

Mae disgwyl i’r tri gael eu dedfrydu ar Fawrth 25, naill ai yng Nghaerdydd neu yng Nghasnewydd.

Negeseuon

Ar drothwy’r digwyddiad i gofio am Dr Gary Jenkins, fe wnaeth sawl mudiad troi at y cyfryngau cymdeithasol i ddatgan eu cefnogaeth.