Mae dyn 19 oed wedi cyfaddef iddo ladd ei chwaer mewn carafan yn Nhowyn ger Abergele.

Bu farw Amanda Selby, 15, mewn parc gwyliau ar Orffennaf 31 y llynedd.

Aeth ei brawd Matthew, sy’n hanu o Ashton-under-Lyne ym Manceinion Fwyaf, gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug i wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Ond mae e bellach wedi pledio’n euog i ddynladdiad trwy gyfrifoldeb lleihaëdig.

Mae’r achos wedi’i ohirio tan Fawrth 18 er mwyn paratoi rhagor o adroddiadau seiciatryddol cyn ei ddedfrydu.

Wrth agor cwest i farwolaeth Amanda Selby, nodwyd iddi farw o ganlyniad i wasgu ei gwddf a’i hatal rhag anadlu.

Roedd ei theulu wedi talu teyrnged iddi fel “merch ac wyres gariadus, ofalgar, feddylgar oedd yn hoffi helpu eraill”, a dywedodd ei hen ysgol, Droylsden Academy, ei bod hi’n “fyfyrwraig hyfryd”.