Fe fydd gorymdaith tros annibyniaeth i Gernyw yn cael ei chynnal ymhen pythefnos.
Bydd ‘Gorymdaith dros Gernyw’ yn digwydd ar Fawrth 19 yn nhref Kammbronn am 12 o’r gloch, gyda siaradwyr gwadd a cherddorion yn cymryd rhan.
Yn ôl y mudiad Pawb Dan Un Faner, sy’n trefnu’r orymdaith, mae Cernyw yn wynebu heriau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol o ddydd i ddydd, a “byddai hunanlywodraeth, y mae gan Gernyw yr hawl hanesyddol iddi, yn galluogi ei phobol i adfywio democratiaeth i fynd i’r afael â’r materion hyn”.
Ymhlith problemau eraill Cernyw mae digartrefedd, newyn, dinistrio trefi, pentrefi a lleoedd gwyrdd, diffyg swyddi ystyrlon â’r cyflog byw, yn ogystal â thranc yr iaith a’r diwylliant.
“Mae hyrwyddo Cernyw yn allanol fel maes chwarae gwyliau yn tynnu swyddi a chartrefi oddi ar bobol leol ac yn mynd â llewyrch economaidd allan o Gernyw,” meddai Pawb Dan Un Faner mewn datganiad.
“Mae’n disodli diwydiant a masnach gwirioneddol gan swyddi dros dro sy’n talu’n isel ar gyfer y diwydiant twristiaeth.
“Does gan y Stryd Fawr ddim siopau bellach i ddiwallu anghenion y gymuned, ond yn hytrach yn darparu ar gyfer pobol ar eu gwyliau.
“Dydy’r gefnogaeth strwythurol ddim yn ddigonol i alluogi pobol Gernywaidd i aros a chynnal eu hunain neu i fagu eu teuluoedd.”
Cyfleoedd masnach i bobol o’r tu allan
“Mae digwyddiadau lleol a oedd unwaith yn draddodiadol ac wedi’u harwain o’r gymuned wedi’u troi’n gyfleoedd masnachol ar gyfer pobol o’r tu allan,” meddai’r mudiad wedyn.
“Ar yr un pryd, mae hunaniaeth unigryw’r bobol Gernywaidd wedi’i datgan o dan Fframwaith Ewropeaidd y Comisiwn Gwarchod Lleiafrifoedd Cenedlaethol.
“Mae ei hiaith a’i hanes yn cael eu dilorni a’u dileu mewn ymdrech i wneud i Gernyw ymddangos yn rhan o Loegr yn unig.
“Mae mannau gwyrdd a pharciau hanesyddol mewn trefi a phentrefi wedi cael eu datblygu i alluogi ail gartrefi, sy’n wag ran fwya’r flwyddyn, i ddominyddu cymunedau.”
Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae’r Cynghorydd Andrew George (Democratiaid Rhyddfrydol), Cath Navin i drafod ail gartrefi, Monique Collins (Disc Newquay) a Zoe Fox (Cynghorydd Mebyon Kernow a Maer Kammbronn).