Mae dyn ag anawsterau iechyd meddwl oedd yn destun achos llys lle dywedodd y barnwr nad oedd bwrdd iechyd yn diwallu ei anghenion yn paratoi i adael yr ysbyty.

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gerydd gan Mr Ustus Hayden yn mis Hydref, wrth iddo ddweud bod “cymaint” wedi mynd o’i le.

Dywedodd cyfreithwyr ar ran y bwrdd iechyd fod cynlluniau ar y gweill i symud y claf sydd wedi bod yn yr ysbyty ers dros ddwy flynedd, gan dreulio 18 mis ar ward, i lety arbenigol.

Mae’r dyn, sydd yn ei 40au, wedi gwrthod bwyta ers rhyw ddeng niwrnod, gan ddweud ei fod e “wedi cael digon”.

Mae’r barnwr yn dweud nad oes modd enwi’r dyn.

Fis Hydref, fe ddywedodd nad oedd y bwrdd iechyd wedi mynd i’r afael â’i anghenion, nac wedi eu cydnabod na’u nodi, a’u bod nhw wedi ei esgeuluso.

Mae’n dweud bod y bwrdd iechyd wedi torri gorchmynion llys, gan grybwyll “methiannau sylweddol a phryderus” a galw am “ddechrau o’r dechrau”.

Ymateb

Mae Jo Whitehead, prif weithredwr y bwrdd iechyd, wedi ymddiheuro gan ddweud bod gwelliannau wedi cael eu gwneud.

Dywedodd y bargyfreithiwr sy’n cynrychioli’r bwrdd iechyd fod penaethiaid yn gobeithio y byddai modd i’r dyn adael yr ysbyty cyn diwedd y mis.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio na fyddai angen rhagor o wrandawiadau llys.