Mae babi o Feneswela wedi cael ei saethu’n farw, ac mae ei fam wedi cael ei hanafu, ar ôl i wylwyr y glannau Trinidad a Tobago saethu at gwch o ffoaduriaid.

Fe ddigwyddodd fore Sadwrn (Chwefror 5) yn ystod “gweithrediadau diogelwch” yn y môr, yn ôl y prif weinidog Keith Rowley.

Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth y swyddogion saethu er mwyn amddiffyn eu hunain ar ôl i’r cwch gael gorchymyn i stopio cyn iddo daro yn erbyn cwch gwylwyr y glannau.

Pan ddaeth y cwch i stop, fe ddaeth i’r amlwg ei fod yn cludo ffoaduriaid yn anghyfreithlon.

Dywedodd y fam wrth swyddogion ei bod hi’n gwaedu ac nad oedd y babi’n ymateb, a chafodd ei gludo i’r ysbyty.

Feneswela

Mae Feneswela yn wynebu cryn dipyn o broblemau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd sy’n gyrru pobol o’r wlad, gan gynnwys pris olew’n gostwng a chamlywodraethu gan nifer o lywodraethau sosialaidd.

Mae miliynau o bobol yn wynebu tlodi, gan gynnwys prinder bwyd a meddyginiaethau.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae mwy na chwe miliwn o bobol wedi gadael y wlad dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n cyfateb i fwy na 10% o’r boblogaeth.

Mae miliynau o bobol eisoes wedi symud i Ecwador, Periw a Colombia ond mae nifer trigolion Feneswela sy’n ceisio lloches yn yr Unol Daleithiau yn parhau i gynyddu.