Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dweud wrth golwg360 nad oes “dim byd i beidio’i licio” am benodiad Guto Harri yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu newydd Boris Johnson.

Daw hyn ar ôl i Guto Harri ddweud wrth golwg360 bod nad yw’r Prif Weinidog “yn glown i gyd, ond mae’n gymeriad sy’n hoffus iawn”.

“Roedd yna lot o chwerthin ac fe eisteddon ni lawr i gael sgwrs o ddifrif o ran sut mae cael y Llywodraeth nôl on track a sut ydyn ni’n symud ymlaen,” meddai.

“Mae sylw pawb ar ddigwyddiadau diweddar sydd wedi creu lot o loes, ond yn y pen draw, dydy hynny’n ddim byd i wneud â’r ffordd wnaeth y bobol bleidleisio ddwy flynedd yn ôl.”

Ychwanegodd Guto Harri ei fod o a’r Prif Weinidog wedi canu geiriau’r gân ‘I Will Survive’ gan Gloria Gaynor.

A dyw llefarydd swyddogol y Prif Weinidog ddim yn gwadu bod y ddau wedi canu gyda’i gilydd.

Mae’r stori wedi creu dipyn o storm ym myd y cyfryngau heddiw (dydd Llun, Chwefror 7) gyda’r “lobi yn San Steffan yn hollol baffled bod Guto Harri di gwneud cyfweliad Cymraeg”, yn ôl Elliw Gwawr, Gohebydd Seneddol BBC Cymru yn San Steffan.

‘Dw i heb weld yr hyn ddywedodd o’

Beth yw ymateb Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i’r cyfan felly?

“Dw i heb weld yr hyn ddywedodd o bore ‘ma, ond dw i’n meddwl bod y syniad o gael rhywun sy’n adnabyddus i ni gyd yng Nghymru (yn Rhif 10) yn beth da oherwydd mae hynny yn dod â rhywun i mewn sydd â dealltwriaeth lawer iawn mwy dwys o’r pwysau rydyn ni’n eu hwynebu nag sy’n wir fel arfer,” meddai wrth golwg360.

“I ni fel Cymry, dw i’n meddwl bod hynny yn beth da oherwydd pan rydyn ni’n dechrau siarad am Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y Deyrnas Unedig, materion datganoledig neu bethau daearyddol sy’n ymwneud â chodi’r gwastad, mae’n dda cael rhywun sydd er enghraifft yn deall y gwahaniaeth rhwng economi gogledd Cymru a gorllewin Cymru – pethau rydan ni fel arfer yn gorfod dysgu i’n cydweithwyr yn Llundain ac sydd ddim wastad yn hawdd i’w dysgu.

“Ond mae Guto yn deall y materion hyn i gyd eisoes, felly dw i’n falch iawn ynglŷn â hynny.

“Dw i’n meddwl bod gennym ni rywun sydd â record hir nid yn unig yn y maes yma, ond gyda Boris Johnson.

“Mae o’n gwybod gyda phwy mae o’n delio felly dw i’n meddwl bod hynny yn gam positif ymlaen hefyd.

“Pan glywais i am y penodiad, wnes i feddwl nad oes dim i beidio’i licio.

“Mae o’r math o berson sy’n gallu dod i mewn a pheidio gorfod treulio gormod o amser yn dysgu’r gêm, mae o’n gwybod beth sydd angen ei wneud yn barod.

“Felly dw i’n credu y bydd o’n gallu bwrw ymlaen â’r gwaith yn eithaf cyflym oherwydd mae o’n adnabod pawb o’i gwmpas.”

‘Synnwyr digrifwch’

Fe adroddodd golwg360 ambell ddyfyniad roddodd Guto Harri i’r wefan hon i Simon Hart, gan ei fod yn honni nad oedd o wedi dod ar eu traws.

O ystyried yr ymateb sydd wedi bod ar hyd a lled cyfryngau Prydain, siawns nad fel hyn oedd disgwyl i ddiwrnod cyntaf Guto Harri yn ei swydd newydd fynd?

“Dw i’n meddwl bod hynna yn cyfateb â dweud ei fod o wedi gwisgo sgidiau lliw anghywir, dw i’n meddwl mai pobol yn chwilio am broblem ydi hynny, ac os wyt ti’n chwilio am broblem, fe alli di wastad ffeindio un,” meddai.

“Ond dw i ddim yn meddwl bod y ffaith bod gennym ni Gyfarwyddwr Cyfathrebu sydd – Duw a’n gwaredo – â synnwyr digrifwch yn rhywbeth y dylai pobol fod yn gandryll yn ei gylch.

“Mae Guto o ddifrif am yr hyn mae o’n ei wneud, mae o wedi bod o gwmpas ers amser hir ac mae ganddo record o lwyddo a dw i’n meddwl y dylem ni ei farnu o ar hynny.

“A dw i’n meddwl bod y ffaith ei fod wedi gwneud un o’i gyfweliadau cyntaf gyda Golwg yn arwydd mawr o barch.

“Gallai fod wedi treulio’r dydd yn siarad gyda Laura Kuenssberg neu Tom Bradby ond fe ddewisodd siarad gyda chi, a dw i’n meddwl bod hynny yn adrodd cyfrolau amdano fel person.

“Dw i’n edrych ar hynny fel rhywbeth positif yn hytrach na negyddol, ond mae yno wastad rhywun yn rhywle fydd yn gandryll ynghylch rhywbeth.”

Ydi Boris Johnson am oroesi?

Un o’r pethau ofynnodd Guto Harri i’r Prif Weinidog yn eu cyfarfod oedd a oedd o’n credu ei fod yn mynd i oroesi.

“Wedyn fe ofynnais i ‘Are you going to survive Boris?’ Ac fe ddywedodd e yn ei lais dwfn, yn araf a phwrpasol gan ddechrau canu ryw ychydig wrth orffen y frawddeg a dweud ‘I Will Survive’,” meddai wrth golwg360.

Ydy Simon Hart yn credu bod y Prif Weinidog yn mynd i oroesi?

“Yn ystod yr wythnosau diwethaf dw i wedi bod ar Question Time, BBC Wales ac wedi gwneud llwyth o gyfweliadau eraill.

“A phob tro mae’r cwestiwn yna wedi cael ei ofyn i mi, dw i wedi rhoi’r un ateb, sef ydw.”

‘Nonsens’

Fodd bynnag, nid pawb sy’n hapus gyda phenodiad Guto Harri.

Cyhuddodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur dîm newydd y Prif Weinidog o “fwy o nonsens a sioe glown”.

“Mae Prydain yn wynebu cynnydd mewn biliau, cynnydd mewn prisiau a’r Torïaid yn cynnydd mewn treth,” meddai.

“Ond mae tîm newydd y Prif Weinidog wedi penderfynu dechrau eu hailwampio mawr gyda mwy o nonsens a sioe glown.

“Mae eisoes yn glir nad yw’r newidiadau yn Stryd Downing wedi newid y ffaith nad oes gan y Llywodraeth Dorïaidd y gallu i fwrw ymlaen â’i gwaith.”

Rhagor o ymateb

Dyma ragor o ymateb yn y byd gwleidyddol i sylwadau Guto Harri.