Mae Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, yn dweud bod mynd i’r afael â newid hinsawdd yn “nod cyffredinol” gan Lywodraeth Cymru, wrth iddi gyhoeddi £8.1bn i gefnogi seilwaith gwyrdd.
Mae’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru wedi’i gefnogi gan fwy nag £8.1bn o gyllid tros y tair blynedd nesaf, a hynny ar drothwy dadl ar y Gyllideb ddrafft yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 8).
Rhwng nawr a 2025, bydd £770m yn cynnal trafnidiaeth gyhoeddus, gyda buddsoddiad o £585m mewn rheilffyrdd a £185m mewn bysiau.
Bydd y strategaeth hefyd yn cynnal y gwaith o greu Coedwig Genedlaethol, ac yn gwella mynediad i dirluniau a gweithgareddau awyr agored drwy fuddsoddi mewn tirluniau penodedig a datblygu Llwybr Arfordir Cymru, Llwybrau Cenedlaethol a’r rhwydwaith o Lwybrau Tramwy Cyhoeddus.
Ar y cyfan, bydd mwy na £153m yn cael ei wario ar natur a’r amgylchedd, gyda newid hinsawdd hefyd yn derbyn buddsoddiad sylweddol o fwy na £100m ar ffurf amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Bydd mwy na 45,000 o gartrefi’n elwa ar fesurau ychwanegol rhag llifogydd yn ystod y tymor hwn yn y Senedd, a bydd mwy na 17,400 o gartrefi arfordirol yn cael eu gwarchod gan y Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol.
‘Buddsoddi yn y seilwaith cywir yn hanfodol’
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Gosododd ein cyllideb y sylfeini ar gyfer cryfhau gwasanaethau cyhoeddus, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, a helpu i greu economi ddi-garbon,” meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru.
“Bydd buddsoddi yn y seilwaith cywir, yn y mannau cywir, yn hanfodol er mwyn taro’r nod.
“Bydd y buddsoddiad yn wahanol o’r naill sector i’r llall ac o’r naill rhaglen i’r llall, ond byddwn ni’n ceisio sicrhau bod yr holl fuddsoddiad yn y dyfodol yn chwarae’i ran o safbwynt helpu Cymru i gyrraedd sero net.
“Bydd canlyniadau amgylcheddol yn cael eu hystyried ym mhob maes gwariant, hyd yn oed yn y meysydd hynny lle gallai’r ffocws sylfaenol fod yn wahanol.
“Nod cyffredinol ein buddsoddiad fydd mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.
“Bydd yn sicrhau bod gennym y seilwaith yn ei le i helpu i greu’r Gymru rydyn ni am ei throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol – Cymru gryfach, decach a gwyrddach.”
‘Agor mathau mwy gwyrdd o drafnidiaeth i ragor o bobol’
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
“Drwy fuddsoddi mewn seilwaith, byddwn ni’n agor mathau mwy gwyrdd o drafnidiaeth i ragor o bobol, gan roi mwy o ddewis o ran sut byddwn ni i gyd yn teithio,” meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
“Ac mae’n seilwaith yn fwy na dim ond ein hamgylcheddau adeiledig; rydyn ni’n neilltuo swm sylweddol o gyllid i wella mannau naturiol Cymru, gan gynnwys gwneud hynny drwy’r Goedwig Genedlaethol.
“Rydyn ni am hyrwyddo cysylltiad pobl â natur a chefnogi’u lles drwy’r cysylltiad hwnnw.
“Mae hwn yn gam arall i’r cyfeiriad cywir, ac rydyn ni’n gwybod bod angen inni wneud mwy yn ystod y deng mlynedd nesaf nag yr ydym wedi’i wneud yn y deng mlynedd ar hugain diwethaf os ydyn ni am gyrraedd ein targed sero net erbyn 2050.”