Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, yn galw am roi terfyn ar ddulliau tameidiog o drin Covid hir sy’n gorfodi cleifion i geisio triniaeth breifat.

Mae’r blaid yn galw o’r newydd am glinigau Covid hir arbenigol, gan rybuddio am beryglon diffyg clinigau o’r fath yng Nghymru.

Cafodd y mater ei grybwyll yn y Senedd ar Ionawr 25, pan ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford nad oedd ganddo fe dystiolaeth wrth law, ac nad oedd e’n “gwybod beth mae [Rhun ap Iorwerth] yn ei olygu wrth nifer o bobol yn mynd yn breifat”.

Fe wnaeth mudiad Covid Hir Cymru ymateb i’r sylwadau gan ddweud na ddylai pobol “â blinder dwys orfod brwydro i gael apwyntiadau gyda’u meddygon teulu a brwydro eto wedyn i geisio, yn aflwyddiannus ar y cyfan, i gael eu trosglwyddo i ofal arbenigol”, ac y byddai clinigau aml-bwrpas “dipyn yn haws”.

‘Ychydig iawn o sicrwydd’

“Mae miloedd o bobol yng Nghymru sydd â symptomau hirdymor yn dilyn Covid – ond gyda’r dull presennol, ychydig iawn o sicrwydd sydd yn y deilliannau meddygol y gallan nhw eu disgwyl,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Mae adborth o’r grŵp trawsbleidiol dw i’n gyd-gadeirydd arno yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru ailfeddwl am eu dull a sefydlu’r timau arbenigol y mae cleifion ac arbenigwyr meddygol yn galw amdanyn nhw ar lefel ryngwladol.

“Doedden ni ddim yn disgwyl i feddygon teulu weithio’n ynysig pan gyrhaeddodd Covid-19 gyntaf, felly pam fod y llywodraeth yn credu bod hyn yn briodol rŵan?

“Mae’r dull tameidiog hwn i gyflwr difrifol yn gorfodi rhai cleifion i fynd yn breifat, sy’n ofnadwy pan ystyriwch chi fod Covid hir yn fwy cyffredin ymhlith pobol sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

“Ddylai triniaeth ar gyfer Covid hir ddim gael ei chadw i’r rhai cyfoethog.”