“Mae ein democratiaeth yn dibynnu ar wedduster a pharch”, yn ôl Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wrth iddo ymateb i’r golygfeydd y tu allan i San Steffan neithiwr (nos Lun, Chwefror 7).

Daw hyn ar ôl i’r heddlu orfod achub Syr Keir Starmer o dorf o bobol oedd yn ei sarhau ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, honni ar gam fod arweinydd y Blaid Lafur wedi gwrthod erlyn Jimmy Savile am ei droseddau rhyw.

Mae Boris Johnson yn gwrthod ymddiheuro am y digwyddiad, ar ôl i Starmer orfod cael ei gludo oddi yno yng nghar yr heddlu am resymau diogelwch.

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford ar Twitter fod “golygfeydd gwarthus y tu allan i San Steffan”.

“Mae gennym ni ddyletswydd i gynnal dadl wleidyddol yn gyfrifol,” meddai.

“Ni ddylai geiriau a gweithredoedd byth achosi casineb.

“Mae ein democratiaeth yn dibynnu ar wedduster a pharch.”

“Golygfeydd gwarthus”

Yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (8 Chwefror), dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, ei bod hi’n credu bod yna gyfrifoldeb am wleidyddion i ddeall effaith eu geiriau.

“Dw i’n meddwl bod y golygfeydd yn warthus tu allan i San Steffan,” meddai Eluned Morgan.

“Dw i’n meddwl bod yna gyfrifoldeb arnom ni i gyd fel gwleidyddion i ymddwyn yn gyfrifol, i ddeall bod ein geiriau’n cael effaith, a bod rhaid i ni fod yn ofalus iawn, iawn o ran cynhyrfu pobol.

“Mae hi’n amlwg nad yw bygythiadau’n dderbyniol.

“Mae pobol yn cael eu hethol i gynrychioli’r cyhoedd. Rydyn ni yma yn eich cynrychioli chi. Chi yw’r bobol sy’n ein hethol ni.

“Dyw democratiaeth ond yn ffynnu, ac wir yn gweithio, pan mae’n cael ei drin â pharch ac urddas, a dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod pobol yn deall bod gwleidyddion dan bwysau anferthol drwy’r amser, a dw i’n gobeithio y bydd pobol yn deall nad yw’r math hwn o fygythiadau’n helpu pobol i wneud eu gwaith.”

Boris Johnson “ddim yn gyfrifol”

Mae o leiaf chwech o Geidwadwyr, gan gynnwys un cyn-aelod o’r Cabinet, wedi ymuno yn y feirniadaeth o Boris Johnson, gan gysylltu’r golygfeydd y tu allan i San Steffan â sylwadau prif weinidog y Deyrnas Unedig yn ystod yr helynt am bartïon yn Downing Street.

Un sy’n ei amddiffyn, serch hynny, yw Chris Philp, y gweinidog technoleg, gan ddweud nad oes modd dweud mai fe oedd yn gyfrifol am weithredoedd “annerbyniol” protestwyr.

Dywedodd fod rhai o’r bobol yn y dorf wedi bod yn rhan o ymosodiadau eraill ar Michael Gove, yr Ysgrifennydd Cymunedau, a’r newyddiadurwr Nick Watt, sy’n gweithio i’r BBC.

“Fe wnaethon nhw sôn am Jimmy Savile, fe wnaethon nhw hefyd sôn am Julian Assange dro ar ôl tro, fe wnaethon nhw sôn am Covid, fe wnaethon nhw hefyd sôn am yr wrthblaid yn fwy cyffredinol,” meddai wrth Sky News.

“Dw i ddim yn meddwl y gallwch chi bwyntio at yr hyn ddywedodd y prif weinidog fel yr hyn achosodd hynny.

“Yn sicr, allwch chi ddim ei feio fe am y ffaith fod mob yn amlwg yn ymddwyn mewn ffordd gwbl annerbyniol.

“Yn sicr, allwch chi ddim dweud bod yr hyn ddywedodd e wedi ysgogi, pryfocio neu wedi cyfiawnhau’r aflonyddu a’r bygythiadau welson ni neithiwr.”

Dywedodd Boris Johnson fod y golygfeydd yn “warthus”, ond wnaeth e ddim ymateb yn ehangach na hynny.