Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd.

Mae Jayne Bryant, Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Thai Cymru, yn dweud bod y “Papur Gwyn yn nodi cynigion ar gyfer datblygu strategaeth dai hirdymor i ddarparu fframwaith clir a mesuradwy i gefnogi’r gwaith o ddarparu tai digonol i bawb”.

Ond yn ôl Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith, mae Llywodraeth Cymru wedi colli “cyfle” i “drawsnewid y ffordd rydym yn gweld tai yng Nghymru, a mynd i’r afael o ddifrif gyda’r argyfwng tai trwy sefydlu’r hawl gyfreithiol i dai digonol”.

Beth sydd yn y Papur Gwyn?

Mae’r cynigon sy’n rhan o’r Papur Gwyn yn cynnwys:

  • datblygu deddfwriaeth yn nhymor y Senedd nesaf i osod dyletswydd ar weinidogion Cymru i lunio strategaeth dai i fynd i’r afael â thai digonol, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer monitro, adrodd ac adolygu;
  • ystyried gosod dyletswydd ar gyrff sector cyhoeddus diffiniedig i roi sylw i’r strategaeth dai wrth gyflawni eu swyddogaethau tai.

Mae’r Papur Gwyn hefyd yn nodi nifer o gynigion sydd â’r nod o wella fforddiadwyedd, ffitrwydd i fod yn gartref, a hygyrchedd yn y Sector Rhentu Preifat; mae pob un ohonyn nhw yn agweddau allweddol ar dai digonol.

Mae’r cynigion hefyd wedi cael eu llywio gan ymgynghoriad y Papur Gwyrdd, ddangosodd yn glir fod angen gwella cadernid data rhent fel cam cyntaf i ddeall y cyd-destun lleol yn well a sicrhau bod ymyriadau polisi posibl yn cael eu targedu’n effeithiol yn y dyfodol.

Mae’r cynigion sydd wedi’u nodi yn y Papur Gwyn hefyd yn cynnwys:

  • cynigion i wella data rhent, gan gynnwys gofyniad ar landlordiaid/ac asiantiaid i ddarparu data rhent i Rhentu Doeth Cymru;
  • datblygu map rhent gofodol i ddangos data rhent ardal leol;
  • cynigion ar sut i ddangos bod eiddo yn ffit i fod yn gartref;
  • cynigion i gefnogi pobol sy’n rhentu gydag anifeiliaid anwes;
  • canllawiau ynghylch gwarantwyr rhent;
  • archwilio’r potensial ar gyfer rhyddhad cyfraddau preswyl uwch Treth Trafodiadau Tir (‘TTT’) os yw’r eiddo’n cael ei gofrestru ar Gynllun Lesio Llywodraeth Cymru.

“Mae’r Papur Gwyn hwn yn gam arwyddocaol arall ymlaen ar ein taith flaengar tuag at ddarparu tai digonol i bawb yng Nghymru,” meddai Jayne Bryant.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i fwrw ymlaen â’r ystod eang o fesurau sy’n cwmpasu darparu tai digonol tai.”

‘Uchelgais ddim yn cyfateb o gwbl i faint yr argyfwng’

“Roedd cyfle trwy’r Papur Gwyn yma i drawsnewid y ffordd rydym yn gweld tai yng Nghymru, a mynd i’r afael o ddifrif gyda’r argyfwng tai trwy sefydlu’r hawl gyfreithiol i dai digonol. Mae ei fethiant i ddod yn agos at hynny’n hynod siomedig,” meddai Jeff Smith wrth ymateb i’r Papur Gwyn.

“Ers dros ddeugain mlynedd, mae dyfodol ein cymunedau wedi cael ei adael i fympwyon y farchnad dai agored, a chanlyniad y drefn hon yw argyfwng tai sy’n gyrru teuluoedd a phobol ifanc o’u cymunedau, a thros 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol.

“Dydy uchelgais y Papur Gwyn ddim yn cyfateb o gwbl i faint yr argyfwng.

“Nid ymdrin â symptomau unigol yr argyfwng tai fan hyn a fan draw fel sydd yn y Papur Gwyn yw’r ateb, ond mynd at wraidd yr argyfwng.

“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am ‘Ddeddf Eiddo – Dim Llai’ ers misoedd, a dyna fydd y neges yn ystod y cyfnod ymgynghori.

“Galwn ar y Llywodraeth i ailystyried eu cynigion a chyflwyno deddfwriaeth fyddai’n sicrhau bod tai yn cael eu trin fel cartref yn hytrach nag ased i wneud elw ohono, ac yn gwneud yr hawl i gartref yn un statudol.”

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi beirniadu’r oedi wrth lunio’r Papur Gwyn, a’r diffyg ymrwymiad i gyflwyno Bil ar ei sail yn nhymor y Senedd hon.

“Rydym wedi gweld gohirio cyson dros y tair blynedd diwethaf, o Bapur Gwyrdd ymgynghorol i Bapur Gwyn ymgynghorol heddiw ar yr hyn y gallai gael ei gyflwyno yn nhymor nesaf y Senedd yn 2026,” meddai Jeff Smith wedyn.

“Beth mae pobol i fod i’w wneud yn y cyfamser? Byw mewn carafanau?”

‘Diffyg Uchelgais i Gymru’

Cafodd y Papur Gwyn ei ddatblygu o ganlyniad i’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur flaenorol Cymru a Phlaid Cymru.

Yn ei datganiad, dywed Jayne Bryant ei bod hi’n diolch i Siân Gwenllian “am ei hymrwymiad a’i chyfraniad at ei ddatblygiad”.

Er y diolch hwn, dywed Siân Gwenllian, llefarydd tai a chynllunio Plaid Cymru, fod y Papur Gwyn yn dangos “diffyg uchelgais i Gymru”.

“Er gwaethaf argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru, mae Papur Gwyn Llafur ar dai yn crynhoi’n berffaith eu diffyg uchelgais i Gymru,” meddai.

“Mae’n anghredadwy ei bod wedi cymryd dwy flynedd i gynhyrchu dogfen sydd mor wan, ac mor brin o’r disgwyliadau gwreiddiol gafodd eu nodi yn y Cytundeb Cydweithio.

“Mae degau o filoedd o bobol yn gaeth ar restrau aros tai, mae bron i 1,000 o blant yn byw mewn llety gwely a brecwast a llety dros dro anaddas, tra bod miloedd yn rhagor yn cael eu gorfodi i fyw mewn cartrefi llaith a llwydni, gyda biliau uchel.

“Mae Plaid Cymru yn glir fod cael cartref digonol i fyw ynddo yn hawl sylfaenol ac y dylid ei ymgorffori yn y gyfraith.

“Yn wahanol i Lafur, ni fydd Llywodraeth Plaid Cymru yn cilio o wneud yr hyn sydd ei angen, a bydd hefyd yn cyflwyno mesurau i system rhenti tecach a chefnogi’r rhai sy’n cael eu prisio allan o’r farchnad dai lleol.

“Mae’r miloedd o bobol sydd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng tai yn haeddu llywodraeth fydd yn gweithredu – a dim ond Plaid Cymru fydd yn gwneud.”

Mi fydd ymgynghoriad i’r Papur Gwyn yn rhedeg hyd at Ionawr 31, 2025.