Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei bod hi’n “rhy fuan” i glodfori’r polisi 20m.y.a., ar ôl i ystadegau awgrymu cwymp mewn gwrthdrawiadau ac anafiadau yng Nghymru ers i’r polisi gael ei gyflwyno.

Mae data sydd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru’n awgrymu cwymp sylweddol dros y gwanwyn eleni o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Er y bydd y cyhoeddiad yn hwb i’r rheiny oedd o blaid y cynllun 20m.y.a. dadleuol, mae Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, yn amheus.

‘Arwyddion calonogol’

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiadau mawr mewn gwrthdrawiadau (24%) ac anafiadau (24%) rhwng Ebrill a Mehefin eleni, o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Mae’r data hefyd yn dangos gostyngiad o 26% yn nifer y gwrthdrawiadau, a gostyngiad o 28% yn nifer yr anafiadau dri chyfnod chwarterol yn olynol ers cyflwyno’r mesurau newydd fis Medi y llynedd.

Dyma’r gostyngiadau mwyaf erioed y tu allan i gyfnod clo’r pandemig.

Dim ond wrth gymharu’r un cyfnod chwarterol bob blwyddyn mae cael canlyniadau gwyddonol deilwng, fel bod modd ystyried ffactorau fel y tywydd.

“Mae’r data a gyhoeddwyd heddiw yn arwydd calonogol bod pethau’n symud i’r cyfeiriad cywir, gyda gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y gwrthdrawiadau a’r anafiadau,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru.

Peidio clodfori’n “rhy fuan”

Ond mae Natasha Ashgar, sydd wedi bod yn mynegi pryderon am y polisi yn y Senedd, yn rhybuddio na ddylai’r Llywodraeth ddathlu’n gynamserol.

“Er bod y ffigurau hyn yn addawol, mae unrhyw haeru am lwyddiant y polisi 20m.y.a. yn rhy fuan,” meddai.

“Gyda damweiniau ac anafiadau’n codi ers dechrau’r flwyddyn eleni, mae’n rhaid holi a yw’r polisi 20m.y.a. wir yn gwneud gwahaniaeth lle mae’r pwys mwyaf.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi 20m.y.a. y tu allan i ardaloedd sensitif erioed, ond mae’r broses gyflwyno a’r ffordd y gwnaeth y Blaid Lafur wrthod gwrando ar y cyhoedd wedi arafu Cymru’n ddiangen.”

‘Ar y trywydd iawn’

Mae Ken Skates yn cydnabod fod gwaith i’w wneud eto, ond yn mynnu bod y polisi’n dilyn y trywydd cywir.

“Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn adolygu’r adborth gan eu dinasyddion ac yn ei asesu yn erbyn ein canllawiau diwygiedig i sicrhau eu bod yn pennu’r cyflymder iawn ar y ffyrdd iawn, gyda diogelwch y ffyrdd yn sail i bob penderfyniad sy’n cael ei wneud,” meddai.

“Mae tipyn o ffordd i fynd eto.

“Rydym bob amser wedi dweud y bydd angen blynyddoedd lawer i ni weld unrhyw effaith arwyddocaol, ond mae’r ffigurau hyn yn dangos tuedd gadarnhaol at wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.”