Mae Guto Harri wedi cyhoeddi fod ei amser yn Rhif 10 wedi dod i ben.

Cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson ym mis Chwefror, ac mae’n gadael Downing Street wrth i Liz Truss ddod yn Brif Weinidog newydd heddiw (Medi 6).

Wrth gyhoeddi’r newyddion ar wefan LinkedIn, dywedodd Guto Harri fod y saith mis diwethaf wedi bod yn “flinedig, ac yn her anferth yn ddeallusol, emosiynol, ac weithiau yn gorfforol”.

Ond dywedodd hefyd bod y cyfnod wedi bod yn un a roddodd foddhad iddo, ac yn “fraint enfawr”.

‘Digrugaredd’

“Mae fy nesg wedi’i chlirio, TGCh a’r pasys wedi’u dychwelyd, ffrindiau wedi’u cofleidio, a fy nghydweithwyr wedi cael diolch. Mae fy amser yn Rhif 10 drosodd,” meddai mewn neges ar ei broffil LinkedIn.

“Doedd e byth yn debygol o fod yn gyfnod hir, ac i rywun wnaeth astudio, gohebu a chael blas ar wleidyddiaeth, roedd e’n llawer rhy fyr.

“Fe welais i Brif Weinidog eithriadol yn gweithio’n galed, ond roedd yr ysgrifen – yn anffodus – ar y mur.

“Roedd saith mis ar y rheng flaen yn ddidrugaredd, blinedig, ac yn her anferth yn ddeallusol, emosiynol, ac weithiau yn gorfforol.

“Ar brydiau, yn arbennig pan oedd y blaid Geidwadol yn dangos awydd i achosi niwed i’w hun, roedd yn greulon.

“Ond achosodd gryn fwynhad, ac roedd yn fraint enfawr.

“Gwrando ar alwadau personol gyda Volodomyr Zelensky, ymuno ag arweinwyr y byd mewn cynhadleddau rhyngwladol, helpu tîm gwych i symud y Deyrnas Unedig yn ei blaen wedi Covid ac ymdopi gyda’r argyfwng costau byw, recriwtio heddlu, meddygon a nyrsys, adeiladau ysbytai, comisiynu adweithyddion niwclear a ffermydd gwynt ar y môr, cydnabod problemau gyda thai, gofal cymdeithasol a bwyd a gafodd eu hanwybyddu ers tro, heb sôn am yr ymateb anochel i “events, dear boy”.

“Felly, diolch enfawr nawr i’r bobol wych a wnaeth gynnal y sioe mewn ffordd dawel, ddigynnwrf ac ymroddedig.

“A phob hwyl i’r Prif Weinidog newydd.

“Mae gan Liz Truss gyfoeth o brofiad, pobol wych yn ei chabinet ac wrth y llyw.

“Mae hi hefyd yn deall bod yna heriau enfawr o’i blaen… felly, â dweud yn blaen, rydyn ni gyd angen iddi lwyddo.”

Boris Johnson yn cwyno bod y Blaid Geidwadol wedi “newid y rheolau” i’w orfodi o’i rôl

Ond roedd araith olaf Boris Johnson fel Prif Weinidog yn “rhithdybiaethol”, medd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan