Mae mudiadau fel PAWB yn galw am sicrhau bod elw ariannol cwmni GB Energy, sy’n cael ei greu yng Nghymru, yn cael ei gadw yng Nghymru.

Daw’r ymateb yn dilyn y newyddion fod y cwmni wedi cael ei sefydlu ddoe (dydd Iau, Gorffennaf 25).

Yn ôl Robat Idris, dylai cwmni GB Energy fod yn “rhywbeth sy’n eiddo i Gymru”.

“Mae yna gwestiynau enfawr ynglŷn â natur y bwriad i newid cyfundrefn cynllunio fel does yna ddim modd i gymunedau lleol leisio barn effeithiol yn erbyn y prosiectau mawr yma,” meddai wrth golwg360.

‘Cyfle economaidd’?

Dywedodd Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn ei araith ddoe yn cyhoeddi sefydlu’r cwmni fod “Llafur am weithredu i fanteisio ar y cyfle economaidd”.

“Byddwn ni’n ffurfio marchnadoedd ac yn defnyddio buddsoddiadau cyhoeddus i ddenu buddsoddiad o’r farchnad breifat,” meddai.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd £8.3bn o arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi yn y cwmni.

Mae’r cynllun wedi cael ei feirniadu gan sylwebwyr annibyniaeth am fanteisio ar Ystâd y Goron, sydd ddim wedi cael ei ddatganoli i Gymru.

Bydd unrhyw elw o brosiectau sydd yn rhan o Ystâd y Goron, sef yr ardal o fewn deuddeg milltir forwrol i’r lan, yn mynd i’r Trysorlys ac nid o reidrwydd i Gymru.

“Yn gyffredinol, dylai adnoddau o Gymru fod yn nwylo Cymru,” meddai Robat Idris wrth golwg360.

“Os byddai cyfran o’r elw yn dod i Gymru i ddatblygu system ynni sydd yn gynaliadwy i ni’n hunain i fedru allforio ynni ar elw i ni, fysa hwnna yn trawsnewid llawer o bethau, yn lle dibynnu ar y ffaith fod Llundain yn fawrfrydig i rannu ryw friwsion o’r elw.”

Cwmniau mawr yn elwa, nid Cymru

“Mae yna fwriad gan gwmni mae BP [British Petrolium] yn rhan ohono fo i ddatblygu ffarm solar dros filoedd o aceri yng nghanol Sir Fôn,” meddai Robat Idris wedyn, gan ychwanegu bod yna “wrthwynebiad cryf” gan drigolion Ynys Môn i’r prosiect.

“Yr egwyddor ydi, nid gwrthwynebu technolegau gwyrdd ydan ni, ond mwy pwy sy’n elwa ohonyn nhw.

“Mewn gwirionedd, be’ ydan ni ddim eisiau gweld ydi bod yna bobol sydd yn byw wrth ymyl y prosiectau yma sydd dal mewn tlodi tanwydd.”

Mae Syr Keir Starmer wedi dweud y bydd yn cymryd unrhyw gyngor sydd yn ceisio rhwystro cynlluniau i adeiladu peilonau i gefnogi prosiectau ynni gwyrdd.

Ond mae Robat Idris yn cwestiynu “a ydan ni wir eisiau cefnogi cwmnïau fel [BP] sydd wedi creu cymaint o lanast amgylcheddol efo’r diwydiant olew – BP yn benodol, wrth gwrs, yng Ngwlff Mecsico”.

Bydd GB Energy wedi’i leoli yn Aberdeen, gyda’r gwaith yn dechrau ar unwaith i ddefnyddio’r £8.3bn i fuddsoddi mewn prosiectau gwyrdd ledled y Deyrnas Unedig.