“Mae’n rhaid i Gymru gamu allan o’r swigen.”
Dyma’r neges sydd wedi cael ei rhoi i mi dro ar ôl tro wythnos yma gan academyddion, cyn- aelodau seneddol Llafur, ac yn wir gan aelodau presenol fel Lee Waters yn ei ddarn blog dros y penwythnos.
Mae’n foment gampus i Gymru fedru dathlu ei Phrif Weinidog benywaidd cyntaf. Yn wir, fel y dywed Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, mae hi’n “hen bryd ar ôl 25 mlynedd o ddatganoli!”
Ond mae’n teimlo fel pe baen ni wedi bod yma o’r blaen, ac yn y gorffennol agos hefyd. Vaughan Gething oedd yr arweinydd du cyntaf erioed yn Ewrop, a hynny’n rywbeth aruthrol o gampus i ddangos pa mor gynhwysol ydi Cymru i bobol o bob demograffeg.
Er y foment gampus hon i Gymru ac i’r Blaid Lafur, fyddech chi ddim yn meddwl ei fod yn achlysur cadarnhaol o ystyried helyntion y pedwar mis diwethaf.
Tu hwnt i’r blaid
Mae’r gair “uno” wedi cael ei ddefnyddio’n llac gan nifer o aelodau’r Blaid Lafur wrth drafod undod eu plaid eu hunain.
O safbwynt etholwyr cyffredin, does ganddyn nhw ddim ots am yr hyn sydd yn digwydd o fewn plaid, dim ond eu bod nhw’n gweithredu er lles pobol yng Nghymru. Dyw’r Blaid Lafur yng Nghymru erioed wedi bod mor gyhoeddus eu hymrafael, ond dyna lle rydyn ni rŵan.
Fel Gohebydd Gwleidyddol, weithiau mae’n hawdd ymgolli yn y syrcas yma oherwydd, a dweud y gwir, theatr yw e. Ond dydy’r pwyslais yma ar densiynau mewnol ddim yn helpu i ddenu pobol at wleidyddiaeth; mae o’n tueddu i wneud y gwrthwyneb.
Pe bai Eluned Morgan yn cael ei hethol yn Brif Weinidog newydd Cymru ar Awst 6, does unlle gwell i ddechrau na mynd i’r afael â phroblemau sydd yn effeithio ar bobol o ddydd i ddydd. I wneud hyn, mae’n rhaid edrych tu hwnt i’r blaid, a gwneud yn siŵr nad yw “addewidion yn cael eu torri”, fel y dywedodd Carwyn Jones wrth golwg360.
Yn wir, mae maniffesto yn ei le ers 2021, ac er i Blaid Cymru alw am etholiad Senedd cynnar, y maniffesto hwnnw fydd yn parhau tan 2026.
Er lles y boblogaeth a datganoli yng Nghymru, mae’n rhaid i’r Blaid Lafur ddangos eu bod nhw’n gallu gweithredu ar elfennau fel rhestrau aros a’r economi, neu fydd ffydd pobol yn y system yn parhau i ddirywio a bydd cefnogaeth yn mynd rywle arall.
Fel y dywedodd Beth Winter wrth golwg360, y bygythiad mwyaf yw’r asgell dde eithafol gan eu bod yn gallu “tapo fewn i bryderon” y cyhoedd, a bydd parhad i unrhyw syrcas yn cyfrannu at hyn yn fwy fyth.
Dim mis mêl
Fel arfer, mae disgwyl i arweinydd newydd gael ‘cyfnod mis mêl’ i allu dod yn gyfarwydd â’r swydd ac i fedru deall sut i weithredu. Ond bydd y “tocyn” yma rhwng Eluned Morgan a Huw Irranca-Davies o dan y chwyddwydr yn syth, hyd yn oed os dydyn nhw ddim yn dychwelyd i’r Senedd tan ganol mis Medi.
Felly, “uno” fydd yr amcan. Ond er mwyn bod yn llwyddianus yn yr etholiad nesaf, bydd rhaid i Eluned Morgan wneud llawer mwy na dod ag undod i Lafur – a gwneud hynny dros Gymru hefyd.