Dywed Beth Winter, cyn-Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, ei bod hi’n “grac iawn” am benderfyniad y Blaid Lafur yn San Steffan i wrthwynebu cynnig gan yr SNP i gael gwared ar y cap dau blentyn ar gymorthdaliadau.
Dywed hefyd fod y penderfyniad i dynnu’r chwip oddi ar y rhai oedd wedi gwrthwynebu Llafur “yn greulon ac yn awdurdodaidd”, a bod y Prif Weinidog Keir Starmer eisiau creu “diwylliant o ofn ymysg aelodau seneddol”.
Ar hyn o bryd, dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim yn cefnogi teuluoedd â thaliadau unigol ar gyfer mwy na dau o blant.
Mae nifer o elusennau a gwleidyddion wedi galw am ddileu’r cap er mwyn helpu codi plant allan o dlodi ar draws y Deyrnas Unedig.
Collodd saith aelod seneddol Llafur y chwip ar ôl dewis pleidleisio o blaid cael gwared mewn pleidlais yn San Steffan ddydd Mawrth (Gorffennaf 23).
‘Adlewyrchiad o’r Blaid Lafur ar hyn o bryd’
Yn ôl Beth Winter, “doedd dim rhaid i’r blaid [Llafur] oedi ynglŷn â thlodi plant”.
“Roedd siawns i’r blaid godi miliynau o blant allan o dlodi drwy gael gwared â’r cap – a dyma beth mae pobol yn ei ddisgwyl o’r Blaid Lafur,” meddai wrth golwg360.
Yn ôl ffigyrau, mae’r cap yn effeithio ar 1.6m o blant ar draws y Deyrnas Unedig.
Yng Nghymru, mae’r ffigyrau’n dangos bod 30% o blant yn byw mewn tlodi, ac mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth yn ei lle i fynd i’r afael â’r broblem.
“Os yw Keir Starmer yn faddeugar, a gwir o ddifri am gael gwared â thlodi plant, dylsai e gael gwared â’r cap,” meddai Beth Winter wedyn, gan ychwanegu bod y ffaith nad oedd yr un aelod seneddol Llafur o Gymru wedi pleidleisio o blaid y cynnig “yn adlewyrchiad o’r blaid ar hyn o bryd”.
“Roedd tynnu’r chwip o’r saith aelod seneddol yn greulon ac yn awdurdodaidd.
“Mae e’n mynd tu hwnt i ddisgyblaeth bleidiol.
“Nod Starmer, yn bendant, yw i greu diwylliant o ofn ymysg aelodau seneddol, ac mae hynny’n fy mhryderu i’n enfawr.”
Diwylliant o ofn
Dywed Beth Winter ei bod hi’n gyfarwydd â’r “diwylliant o ofn” yn ystod ei hamser hi’n aelod seneddol, a hynny’n enwedig ar adeg y bleidlais ar gadoediad yn Gaza fis Tachwedd diwethaf.
“Mae gan y saith fy nghefnogaeth lwyr,” meddai.
“Ac mae e’n fy ngwneud i’n drist fod yna ddim un aelod seneddol yn y Blaid Lafur o Gymru wedi pleidleisio i gael gwared â’r cap.
“Rwy’n credu mai Cymru sydd dal â’r lefelau uchaf o dlodi plant ym Mhrydain, a wnaeth yr un aelod o Gymru bleidleisio o blaid y cynnig.
“Mae hwnna yn adlewyrchiad o’r blaid ar hyn o bryd i fi.”
Her Eluned Morgan a bygythiad yr asgell dde
Yn nes at adref, dywed Beth Winter fod Eluned Morgan, arweinydd newydd Llafur Cymru, “yn etifeddu’r un argyfwng oedd gyda Vaughan [Gething] a Mark [Drakeford]”.
“Yma yng Nghymru, mae’r Blaid Lafur wedi bod yn rheoli llymder ar ran y llywodraeth lan yn San Steffan am dros ddegawd,” meddai.
“Ac mae pobol Cymru yn colli parch at y blaid.
“Mae rhaid iddi ddangos arweiniad, a chrebwyll gwleidyddol gryn dipyn yn well, yn enwedig o gymharu â Vaughan.”
Yn ôl Beth Winter, mae’n rhaid i’r Blaid Lafur ddeall bod “pobol yn dioddef”, ac o ganlyniad i hyn fod rhaid iddyn nhw “edrych tu fa’s i’r swigen” ym Mae Caerdydd.
“Y risg mwyaf ar hyn o bryd yng Nghymru ydi’r Blaid Reform,” meddai.
Yn yr etholiad cyffredinol, cafodd Reform 16.9% o’r bleidlais yng Nghymru, gan orffen yn ail mewn 13 etholaeth yng Nghymru, ac mae gan Beth Winter neges i’r Blaid Lafur.
“Mae e wir yn frawychus,” meddai.
“Roedd gwleidyddion yng Nghymru yn dawel ynglŷn â [Nigel] Farage yn defnyddio Merthyr fel y lleoliad i lansio ei faniffesto.
“Mae pobol eithafol fel Farage yn tapio i mewn i bryderon pobol, ac os dych chi ddim yn ofalus, maen nhw’n mynd i ennill sawl sedd yn Senedd yn 2026.”